En

Highfield Dyfarniad mewn Rheoli Diogelwch Bwyd yn y Maes Arlwyo Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Argymhellir bod dysgwyr eisoes yn meddu ar y Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo.

Yn gryno

Datblygwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer y rhai sydd fwyaf tebygol o fod mewn rôl reoli neu sydd â chyfrifoldeb am dîm gweithredol, neu ddysgwyr sy'n paratoi ar gyfer cyflogaeth. Mae'n cwmpasu'r pwnc hylendid bwyd i lefel resymol i sicrhau y bydd gan ddysgwyr wybodaeth drylwyr am bynciau y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn eu hystyried yn bwysig i gynnal arfer da mewn diogelwch bwyd.

Dyma'r cwrs i chi os...

Cymhwyster lefel 4 delfrydol ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau rheoli.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r pynciau sy’n rhan o’r cymhwyster 40 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:

 

• Fod gweithredwyr busnesau bwyd yn gallu sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd

• Gofynion gweithredol i sicrhau diogelwch bwyd

• Sefydlu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd

• Rheolau sy'n ofynnol ar gyfer diogelwch bwyd

• Cynnal gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd

 

Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis ac arholiad ysgrifenedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Mae hwn yn gwrs chwe diwrnod. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond, fel canllaw, rydym yn codi £2,850 (gan gynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £65 y dysgwr).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Highfield Dyfarniad mewn Rheoli Diogelwch Bwyd yn y Maes Arlwyo Lefel 4?

BCEM0032AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.