En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad Lefel 4

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Addysgu ac addysg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio mewn rôl ble rhoddir cyngor ac arweiniad. 

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn ystod eang o rolau lle darperir gwybodaeth, cyngor neu arweiniad. 

Dyma'r cwrs i chi os...

...unrhywunsy'ndarparucyngoracarweiniadmewnrôlbroffesiynolneuwirfoddol.  

...unrhywunsy'ngweithiomewnmaesblerhoddirarweiniadynghylchgyrfaoedd,iundebllafur,mewnysgol,yn y maestai,adnoddaudynolneuyn y maesiechydagofalcymdeithasol. 

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hwn yn Gymhwyster Galwedigaethol Genedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau ble rhoddir cyngor ac arweiniad gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.  

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.  

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'u rôl alwedigaethol. 

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd ble rhoddir cyngor ac arweiniad ers peth amser a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o gysyniadau a damcaniaethau. Efallai y bydd gennych hefyd gyfrifoldebau rheoli ychwanegol. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.  

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys tua 9 uned yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd. Gall gymryd rhwng 9 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond fel canllaw, rydym yn codi £1000 y pen ynghyd â ffioedd ychwanegol ar gyfer cofrestru gyda chyrff dyfarnu (tua £191). 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad Lefel 4?

BCEM0031AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.