En

City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Addysgu ac addysg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn rôl cynghori a rhoi arweiniad. 

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn ystod eang o rolau lle darperir gwybodaeth, cyngor neu arweiniad. 

Dyma'r cwrs i chi os...

... unrhyw un sy'n darparu cyngor ac arweiniad mewn rôl broffesiynol neu wirfoddol. 

 ... Unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynghori ar yrfaoedd, i undeb llafur, mewn ysgol, mewn tai, adnoddau dynol neu mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau rhoi cyngor ac arweiniad a rhoi arweiniad gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.  

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir ei fod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.  

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.  

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio am beth amser mewn amgylchedd rhoi cyngor ar arweiniad a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o gysyniadau a damcaniaethau. Rydych chi'n gweithio gyda’r mymryn lleiaf o oruchwyliaeth eu efallai y byddwch yn goruchwylio eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.  

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys tua 6 neu 7 uned yn dibynnu ar opsiynau a ddewiswyd. Gall gymryd rhwng 6 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond, fel canllaw, rydym yn codi £750 y pen ynghyd â ffioedd cofrestru cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £165). 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad Lefel 3?

BCEM0030AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.