City & Guilds Diploma mewn Gweinyddu Busnes Lefel 3
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn rôl gweinyddu busnes.
Yn gryno
Amcan y cymhwyster yw cefnogi rôl gweinyddwr busnes yn y gweithle, gan roi cyfle i'r dysgwyr ddysgu a darparutystiolaetho’u gwybodaeth a'u sgiliau.
Dyma'r cwrs i chi os...
Mae'r cymhwyster yn addas i unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw rôl sy'n canolbwyntio ar weinyddiaeth mewn unrhyw ddiwydiant. Ei nod yw datblygu set hynod drosglwyddadwy o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ddysgwyr ar draws ystod o arferion a thasgau gweinyddol, y gellir eu cymhwyso i bob diwydiant.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae hyn yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau gweinyddu busnes gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.
Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys tua 12 uned yn dibynnu ar opsiynau a ddewiswyd. Gall gymryd rhwng 12 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae’n bosib ei gwblhau'n gynt.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0028AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.