EAL Diploma NVQ mewn Technegau Gwella Busnes Lefel 3
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Datblygwyd y cymhwyster hwn i alluogi dysgwyr i ddangos cymhwysedd yn eu galwedigaeth gwella busnes mewn modd darbodus a hynny fel arfer yn y maes peirianneg neu weithgynhyrchu.
Mae'r cymhwyster yn berthnasol i amrywiaeth eang o alwedigaethau o fewn ystod o sectorau, yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unrhywunsy'ngyfrifolamgyfrannuatwellaansawddaphrosesuynygweithle.Yrhaisy'ncaeleucyflogifelgoruchwylwyr,arweinwyrtîmneuhwyluswyracsy'ngyfrifolamgynnalgweithgareddaugwellabusnes.
Cynnwys y cwrs
Mae hwn yn Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau gwella busnes, gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.
Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.
Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd gwella busnes mewn modd darbodus ers peth amser a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o gysyniadau a damcaniaethau darbodus. Rydych chi'n gweithio gyda’r mymryn lleiaf o oruchwyliaeth neu efallai y byddwch yn goruchwylio eraill.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd a rôl gwella busnes.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys 8 neu 9 uned. Gall gymryd rhwng 8 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei chwblhau'n gynt.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0026AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.