En

EAL Diploma NVQ mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Datblygwyd y cymhwyster hwn i alluogi dysgwyr i ddangos cymhwysedd yn eu galwedigaeth gweithgynhyrchu. Mae'r cymhwyster yn berthnasol i amrywiaeth eang o alwedigaethau gweithgynhyrchu yn y sector, yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Mae'r cymhwyster wedi'i ddylunio gan ddiwydiant ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â phroses weithgynhyrchu beth bynnag fo'r sector. Fel arfer, gall dysgwyr fod yn gyfrifol am redeg offer o ddydd i ddydd ac am ansawdd gwaith. Maent hefyd yn gallu monitro a rheoli offer ac ansawdd a gallant hefyd arfer rhywfaint o farn a gwneud penderfyniadau am y broses weithgynhyrchu. 

Cynnwys y cwrs

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau yn y maes gweithgynhyrchu, gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.  

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir ei fod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.  

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol. 

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu.Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gydachia'ch cyflogwr.  

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys 6 uned.Gall  gymryd rhwng 6 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwyn nol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion  hyfforddiond, fel canllaw rydym yn codi £500 y person yng hydâffioedd cofrestru cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £80). 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Diploma NVQ mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Lefel 3?

BCEM0025AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.