En

EAL Diploma NVQ mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Datblygwyd y cymhwyster hwn i alluogi dysgwyr i ddangos cymhwysedd yn eu galwedigaeth cynnal a chadw peirianneg. Mae'r cymhwyster yn berthnasol i amrywiaeth eang o waith cynnal a chadw peirianneg a/neu waith gosod o fewn y sector, yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd. Rydym yn arbenigo mewn Cynnal a Chadw Mecanyddol. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

I'r rhai sy'n gweithio yn y maes cynnal a chadw peirianneg a/neu alwedigaethau gosod o fewn y sector. 

Cynnwys y cwrs

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau yn y maes cynnal a chadw peirianneg gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.  

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir ei fod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.  

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'u rôl alwedigaethol.  

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio yn y maes cynnal a chadw peirianneg ers peth amser a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o ddiogelwch, offer a chyfarpar. Rydych chi'n gweithio gyda’r oruchwyliaeth leiaf neu efallai y byddwch yn goruchwylio eraill.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio yn y maes mewn cynnal a chadw peirianyddol. 

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly rhaid i ddysgwyr weithio ym maes cynnal a chadw peirianneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.  

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys 8 uned. Gall gymryd rhwng 8 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunainond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned y mis, mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Diploma NVQ mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Lefel 3?

BCEM0024AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.