En

Olwynion Sgraffinio

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Nod y cwrs yw codi ymwybyddiaeth gweithwyr ar bob lefel o’u cyfrifoldebau ar gyfer diogelwch wrth ddefnyddio olwynion sgraffinio ar gyfer bob math o offer torri a llifanu (Llif Stihl, Peiriant Llifanu Onglau, Llif Hollti, Peiriant Llifanu Mainc/Pedestal, Peiriant Llifanu Arwyneb, Peiriant Llifanu Silindrig etc).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...gweithwyr ar bob lefel

...unrhyw un sy’n defnyddio offer torri neu lifanu fel rhan o’u dyletswyddau gwaith arferol

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â'r testunau canlynol:

  • Yr Angen i Hyfforddi a Gofynion Statudol
  • Nodweddion Olwyn Sgraffinio a’r Mathau
  • Marciau Olwynion Sgraffinio
  • Peryglon a Rhagofalon i’w cymryd
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Cadw a Defnyddio - Cefnogir y cwrs gan DVD ac astudiaeth achos o ddamwain.

Dilynir y cwrs Iechyd a Diogelwch gan ymwybyddiaeth ymarferol yn ymdrin â:

  • Cydbwyso Olwynion Sgraffinio
  • Y Dull Cywir o Lanhau Olwynion
  • Addasu Amddiffynfeydd a Chynhalwyr

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel arfer, cyflwynir y cwrs hwn dros 3 awr.   Dyfernir tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent i ymgeiswyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs. Gallant hefyd symud ymlaen i’n hystod lawn o gymwysterau achrededig ym maes iechyd a diolgelwch megis CITB Diogelwch ar y Safle Uwch neu IOSH Rheoli’n Ddiogel.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Olwynion Sgraffinio?

BCEM0015AA
Hyblyg

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.