Olwynion Sgraffinio
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Nod y cwrs yw codi ymwybyddiaeth gweithwyr ar bob lefel o’u cyfrifoldebau ar gyfer diogelwch wrth ddefnyddio olwynion sgraffinio ar gyfer bob math o offer torri a llifanu (Llif Stihl, Peiriant Llifanu Onglau, Llif Hollti, Peiriant Llifanu Mainc/Pedestal, Peiriant Llifanu Arwyneb, Peiriant Llifanu Silindrig etc).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...gweithwyr ar bob lefel
...unrhyw un sy’n defnyddio offer torri neu lifanu fel rhan o’u dyletswyddau gwaith arferol
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn ymdrin â'r testunau canlynol:
- Yr Angen i Hyfforddi a Gofynion Statudol
- Nodweddion Olwyn Sgraffinio a’r Mathau
- Marciau Olwynion Sgraffinio
- Peryglon a Rhagofalon i’w cymryd
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- Cadw a Defnyddio - Cefnogir y cwrs gan DVD ac astudiaeth achos o ddamwain.
Dilynir y cwrs Iechyd a Diogelwch gan ymwybyddiaeth ymarferol yn ymdrin â:
- Cydbwyso Olwynion Sgraffinio
- Y Dull Cywir o Lanhau Olwynion
- Addasu Amddiffynfeydd a Chynhalwyr
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn dros 4 awr fel rheol. Gall yr ymgeiswyr sy’n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, eu dyfarnu â thystysgrif presenoldeb Coleg Gwent, a gallent symud ymlaen i un o'n cymwysterau iechyd a diogelwch ardystiedig megis Gweithio’n Ddiogel IOSH, NEBOSH neu NVQs City & Guilds.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0015AA
Hyblyg
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.