City & Guilds Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Ymarfer Asesu Lefel 4
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-business-ilm-alt.jpg)
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
4
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Os oes gennych staff sy’n gyfrifol am gynnal ansawdd asesu yn eich sefydliad neu eich canolfan asesu, dyma’r cymhwyster perffaith iddynt. Byddant angen cymorth gweithiwr IQA ychwanegol yn eich sefydliad i’w mentora, a dylent feddu eisoes ar gymhwyster asesydd (e.e. A1/2, D32/33, TAQA).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…pawb sydd mewn rôl sicrhau ansawdd ac sy’n cynorthwyo dau asesydd o leiaf.
Cynnwys y cwrs
Ar y cwrs, bydd y dysgwyr yn astudio cynllunio dilysu mewnol, strategaethau samplu a thechnegau safoni, ac yn mynd i’r afael â phrosesau sicrhau ansawdd. Gan weithio un-i-un gyda gweithwyr proffesiynol profiadol, bydd modd i’r dysgwyr ddatblygu eu prosesau sicrhau ansawdd mewnol eu hunain i weddu i’ch busnes.
- Uned 1 – Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol. Bydd yr uned hon yn helpu’r dysgwyr i ddeall yr egwyddorion a’r arferion sy’n perthyn i sicrhau ansawdd mewnol.
- Uned 2 – Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol. Nod yr uned hon yw asesu perfformiad y dysgwyr o ran sicrhau ansawdd asesu yn eich sefydliad neu eich canolfan asesu.
Gofynion Mynediad
Dylai’r dysgwyr feddu eisoes ar gymhwyster asesydd (e.e. A1/2, D32/33, TAQA).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0014AA
Hyblyg
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.