En

City & Guilds Gwobr City & Guilds mewn Asesu Cyflawniadau sy'n Gysylltiedig â Galwedigaethau Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Addysgu ac addysg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer pobl sy'n gweithio, neu sydd eisiau gweithio yn y maes asesu a sicrhau ansawdd mewnol. Mae'r cymwysterau hyn yn agored i bobl sy'n cynnal asesiadau a sicrwydd ansawdd yn y rhan fwyaf o amgylcheddau dysgu, gan gynnwys AB, Addysg Barhaus i Oedolion, Cyflogwyr a'r Trydydd Sector. Maent wedi'u cynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n asesu ac yn cynnal sicrwydd ansawdd ym mhob sector galwedigaethol, dysgu achrededig, dysgu heb ei achredu (e.e. lle mae perfformiad yn cael ei asesu ond lle nad yw'r dysgwr yn ymgymryd â chymhwyster). Mae'r cymhwyster hwn wedi'i fwriadu ar gyfer y rhai sy'n asesu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol mewn amgylcheddau ar wahân i'r amgylchedd gwaith (er enghraifft, mewn gweithdy, ystafell ddosbarth neu amgylchedd hyfforddi arall).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Ar gyfer ymarferwyr sy'n asesu gwybodaeth a/neu sgiliau mewn meysydd pwnc sy'n gysylltiedig â galwedigaeth ac sy'n defnyddio'r dulliau asesu canlynol: asesiadau mewn amgylcheddau efelychiadol, profion sgiliau, cwestiynau llafar ac ysgrifenedig, aseiniadau, prosiectau, astudiaethau achos a RPL. Gall hyn ddigwydd mewn gweithdai hyfforddi, ystafelloedd dosbarth neu amgylcheddau dysgu eraill.

Cynnwys y cwrs

Gall dysgwyr ddisgwyl ymdrin ag ystod o ddamcaniaethau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau egwyddorion asesu cadarn. Mae'r unedau'n cynnwys:

• Deall egwyddorion ac arferion asesu

• Asesu Sgiliau, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Galwedigaethol

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd ar gyfer dau ddysgwr go iawn ar ddau achlysur mewn amgylchedd hyfforddi go iawn yn erbyn safonau/meini prawf cymeradwy felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd/lleoliad lle bo hynny'n bosibl.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.

Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag un uned theori sy'n edrych ar eu gwybodaeth am egwyddorion ac arferion asesu ac un uned ymarferol sy'n ymdrin â pha mor dda y maent yn asesu cyflawniad sy'n gysylltiedig â galwedigaeth. Mae hyn fel arfer yn gofyn am bedwar cyfarfod gyda'ch aseswr a gall gymryd 3 i 6 mis i'w gwblhau (gall dysgwyr ei gyflawni yn ôl eu pwysau eu hunain). Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael eu baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi, ond fel canllaw, rydym yn codi £815 y pen.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Gwobr City & Guilds mewn Asesu Cyflawniadau sy'n Gysylltiedig â Galwedigaethau Lefel 3?

BCEM0013AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.