En

ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol at ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad, gwella'ch perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau rheoli uwch. Fe'i cyflwynir gan diwtoriaid profiadol sydd eu hunain wedi dal swyddi rheoli, ac mae hyfforddiant yn ymarferol, yn gyfranogol ac yn gysylltiedig â'r gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer penaethiaid adran a rheolwyr canol gweithredol eraill.

Cynnwys y cwrs

Bydd unedau y cymhwyster hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Gall cyflogwr eu dewis i ddiwallu eu hanghenion hyfforddiant. Fel arall, rydym yn argymell dwy uned a fydd yn galluogi dysgwyr i ennill y Dyfarniad llawn:

- Datblygu ac arwain timau i gyflawni amcanion sefydliadol: i ddatblygu dealltwriaeth a gallu o ran datblygu ac arwain timau.
- Dod yn arweinydd effeithiol: i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dan arweiniad hyfforddwyr ar gyfer pob uned a byddant yn cyflwyno aseiniad ysgrifenedig 2500 o hyd ar gyfer pob uned.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar safle cyflogwr i grŵp o'i weithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau ei gyflyniad gyda'r cyflogwr ymlaen llaw.

Cyflwynir y ddwy uned a argymhellir uchod dros bum diwrnod. Gellir cyhoeddi dyfynbris ffurfiol ar ôl ennill dealltwriaeth o’ch anghenion hyfforddiant, ond fel canllaw, rydym yn codi £4,500 (gan gynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £125 y dysgwr).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5?

BCEM0004AA
Hyblyg

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.