ILM Tystysgrif mewn Arwain a Rheoli Lefel 3
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Gwella'r diwylliant hyfforddi a mentora yn eich sefydliad drwy ddatblygu hyfforddwyr neu fentoriaid hynod effeithiol. Gweithredu hyfforddiant a mentora effeithiol i wella perfformiad sefydliadol. Dysgwch sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno ennill y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn effeithiol o fewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol i'r rhai sy'n dymuno dechrau gyrfa mewn hyfforddi neu fentora.
Cynnwys y cwrs
Gall dysgwyr ddisgwyl ymdrin ag ystod o ddamcaniaethau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad i hyfforddi a mentora. Mae'r unedau'n cynnwys:
• Deall Arferion Da mewn Hyfforddiant o fewn Cyd-destun Sefydliadol
• Deall Da mewn Mentora o fewn Cyd-destun Sefydliadol
• Cynnal Cyfnod Estynedig o Hyfforddiant neu Fentora o fewn Cyd-destun Sefydliadol
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu.Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
Mae'r tair uned yn cael eu darparu dros saith diwrnod. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi, ond fel canllaw, rydym yn codi £6,000 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd ychwanegol ar gyfer cyrff dyfarnu (tua £150 y dysgwr).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0003AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.