En

ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Dyma gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, a’i fwriad y meithrin sgiliau rheoli craidd y dysgwyr gyda hyfforddiant ymarferol, cyfranogol sy’n cysylltu’n ôl â’r gweithle. Bydd y cyrsiau’n cael eu haddysgu gan diwtoriaid profiadol sydd wedi bod mewn swyddi rheoli eu hunain.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...arweinwyr tîm wrth eu gwaith sy'n ceisio symud i'r lefel nesaf o reolaeth, a rheolwyr sydd angen arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu bwysau eraill.

Cynnwys y cwrs

Mae'r unedau yn y cymhwyster hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Gall cyflogwr eu dewis i ddiwallu eu hanghenion hyfforddi. Fel arall, rydym yn argymell dwy uned a fydd yn galluogi dysgwyr i ennill y Dyfarniad llawn:

  • Deall arweinyddiaeth: datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth.
  • Deall sut i ysgogi i wella perfformiad: i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddamcaniaeth cymhelliant a sut y gellir ei chymhwyso yn y gweithle i wella perfformiad.

Bydd dysgwyr yn cael gweithdai dan arweiniad hyfforddwr ar gyfer pob uned a byddant yn cynhyrchu aseiniad ysgrifenedig o 1200 gair ar gyfer pob uned.

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o’u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau dosbarthu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 3?

BCEM0002AA
Hyblyg

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.