En

ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bwriad y cwrs hwn yw meithrin sgiliau arweinyddiaeth craidd ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn rôl arwain neu’r rhai sy’n ystyried ysgwyddo rôl o’r fath. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan diwtoriaid profiadol sydd wedi bod mewn rolau rheoli eu hunain, ac mae’r hyfforddiant yn ymarferol, yn gyfranogol ac yn cysylltu’n ôl â’r gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...yn ddelfrydol ar gyfer arweinwyr tîm gweithredol neu gefnogi arweinwyr tîm newydd neu ddarpar arweinwyr tîm.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen i’r dysgwyr ar gyfer dod yn fwy effeithiol a hyderus yn eu rôl arwain. Bydd yn mynd i’r afael â dwy uned o blith y cymhwyster Lefel 2:

  • Deall timau sy’n gweithio’n effeithiol – meithrin sgiliau o ran sicrhau bod timau’n gweithio’n effeithiol
  • Cynllunio a monitro gwaith – meithrin dealltwriaeth a gallu i gynllunio a monitro gwaith y tîm mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Ymhellach, ar gyfer pob uned bydd y dysgwyr yn mynychu gweithdai a byddant yn llunio aseiniad ysgrifenedig o 1000 eiriau am phob uned.

 

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o’u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau dosbarthu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Mae'r ddwy uned a argymhellir uchod yn cael eu cyflwyno dros ddau ddiwrnod.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm Lefel 2?

BCEM0001AA
Hyblyg

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.