City & Guilds Diploma mewn Peirianneg – Technoleg Cynnal a Chadw (Aml-sgiliau) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£730.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025
Dydd Iau
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn darparu Diploma City & Guild LD mewn Technoleg Cynnal ac mae wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn diwydiannau peirianyddol perthnasol sy'n dymuno astudio ac ennill cymwysterau drwy astudio'n rhan amser. Mae'r cwrs hwn yn cydymffurfio gyda'r Fframwaith Prentisiaeth fel Tystysgrif Dechnegol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Mae'r cwrs hwn yn addas ar eich cyfer os ydych yn gweithio mewn diwydiant peirianyddol ac yr hoffech ennill rhai cymwysterau ffurfiol er mwyn datblygu eich hun ymhellach. Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu yn rhan amser dros ddwy flynedd, un diwrnod yr wythnos, fel ei fod yn gallu cyd-fynd ochr yn ochr â'ch ymrwymiadau gwaith.
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn astudio chwe uned dros ddwy flynedd. Mae'r unedau'n gyfuniad o waith theori ac ymarferol a bydd yn cael ei ddysgu mewn amrywiaeth o ofodau ymarferol a lleoliadau ystafell ddosbarth. Mae'r cwrs yn cwmpasu cynnwys peirianneg gyffredinol yn ogystal ag unedau sy'n gogwyddo tuag at waith mecanyddol a thrydanol. Ystyrir bod gan y cwrs agwedd aml-sgil iddo.
Gofynion Mynediad
Dylech fod â 4 gradd TGAU D neu uwch i gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C. Bydd ymgeiswyr hŷn yn cael eu hystyried ar sail unigol yn seiliedig ar sgiliau, profiad a gwybodaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch angen gwisgo esgid ddiogelwch a throswisg ar gyfer y cwrs hwn a bydd angen eu gwisgo ym mhob lleoliad ymarferol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPDI0401AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr