City & Guilds Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch (Cegin a Phantri) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun i Dydd Gwener
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Nod cymhwyster Diploma Lefel 3 City and Guilds mewn Coginio Proffesiynol Uwch yw asesu a hyfforddi Cogyddion mewn sgiliau paratoi bwyd a choginio cymhleth neu ar lefel uwch. Anelir at Gogyddion sydd wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd cegin.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol ynghyd ag elfen o brofiad gwaith.
Cynnwys y cwrs
Mae’r unedau craidd a gwmpesir yn cynnwys:
- Egwyddorion goruchwylio diogelwch bwyd ar gyfer arlwyo
- Sgiliau goruchwylio yn y diwydiant lletygarwch
- Archwilio Gastronomeg
Mae’r unedau sgiliau ymarferol uwch yn cynnwys:
- Cynhyrchu prydau llysiau a llysieuol
- Cynhyrchu prydau cig
- Prydau dofednod a helgig
- Cynhyrchu pysgod a physgod cregyn
- Cynhyrchu cynhyrchion toes a chytew
- Cynhyrchu petits fours
- Cynhyrchu cynhyrchion past
- Cynhyrchu pwdinau poeth, oer ac wedi rhewi
- Cynhyrchu cacennau, bisgedi a sbyngau
Gofynion Mynediad
Coginio Proffesiynol Lefel 2 neu gymhwyster a phrofiad cyfwerth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cwrs yn rhedeg dros ddau ddiwrnod, gan gynnwys nosweithiau, a fydd yn caniatáu i chi weithio yn y diwydiant ochr yn ochr â'ch astudiaethau.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg cogydd llawn a phrynu eich cyllyll eich hunain ar gyfer yr holl sesiynau ymarferol, a mynychu gweithdai Dosbarth Meistr i gyfoethogi eich astudiaethau. Efallai y cânt eu cynnal ar ddiwrnodau amgen i'r 2 ddiwrnod dynodedig ar yr amserlen.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPDI0200AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr