UAL Diploma mewn Dylunio Gemau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.
Neu
Gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, gan gynnwys naill ai Mathemateg/rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.
Yn gryno
Gan ddefnyddio cyfrifiadura uwch o'r radd flaenaf a'r technolegau realiti rhithwir diweddaraf, mae'r cwrs hwn yn cynnig profiad ymarferol a chyfle i ddatblygu'r sgiliau i'ch helpu chi i gadw ar flaen y gad yn y diwylliant hwn sy'n datblygu'n sydyn.
Dyma'r cwrs i chi os...
........Ydych chi'n meddu ar ddiddordeb brwd mewn gemau cyfrifiadur
........Ydych chi'n greadigol ac yn gweithio'n galed
........Ydych chi am symud ymlaen i gwrs prifysgol yn y maes hwn
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadur yn faes sy'n datblygu'n sydyn, gan gynnig nifer o gyfleoedd. Bydd y cymhwyster hwn yn eich caniatáu i arbenigo mewn agweddau creadigol, artistig a thechnolegol ar gynhyrchu gemau digidol. Trwy ddysgu ymarferol byddwch yn archwilio pob cam o'r broses ddatblygu gemau, gan gynnwys creu celf gysyniadol, animeiddio 2D a 3D a sgriptio o fewn peiriant gêm.
Fe'ch asesir drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Y cymwysterau y byddwch chi'n eu hennill fydd :-
- Diploma Lefel 2 mewn Dylunio a Datblygu Gemau Digidol
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau - Sgiliau cyflogadwyedd
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Lleiafswm o 4 TGAU Gradd D neu uwch i gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af neu gymhwyster Diploma lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu radd Saesneg/Cymraeg 1 Iaith.Dylech hefyd allu defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a'ch barn i ddechrau a chwblhau tasgau lled-gymhleth (o fewn terfynau). Mae hyn yn cynnwys y gallu i fynd i'r afael â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o wahanol safbwyntiau a dulliau o fewn eich maes astudio neu waith. Bydd gofyn i chi ymrwymo i bum diwrnod o astudiaeth yr wythnos sydd yn cynnwys addysgu elfen wybodaeth y cymwysterau o fewn y coleg, a diwrnodau/blociau amser ar leoliad gwaith ar gyfer elfen gymhwysedd y cymwysterau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma UAL Lefel 3 mewn dylunio Gemau: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu diploma Lefel 2 ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg bellach mewn pwnc sydd yn ymwneud â'r maes dylunio gemau megis Diploma UAL mewn Dylunio Gemau Lefel 3 yn Coleg Gwent.
Prifysgol: Ar ôl symud ymlaen o Ddiploma UAL Lefel 3 mewn Dylunio Gemau, bydd y cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau dariff UCAS ac yn eich cefnogi wrth i chi symud ymlaen i addysg bellach mewn pwnc sydd yn ymwneud â'r maes dylunio gemau megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn Coleg Gwent.
Cyflogaeth: Ar ôl cwblhau'r cymwysterau hyn, byddwch yn gallu symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi, gan ddibynnu ar eich llwybr o ddewis. Gallai opsiynau gyrfa gynnwys bod yn ddylunydd
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0671AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr