En

BTEC Diploma mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwyddoniaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch, gan gynnwys pwnc gwyddoniaeth a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu Gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol, sydd yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych yn meddu ar ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Mae Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2 yn cwmpasu'r tair gwyddor, gan gyfleu gwybodaeth wyddonol sydd yn flaengar ac yn gyfoes. Bydd yn eich cyflwyno i waith yn y sector a'ch paratoi ar gyfer astudio ymhellach.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwyddoniaeth

...Ydych chi'n dymuno datblygu eich dealltwriaeth ymhellach

...Ydych chi am gael arddull dysgu ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs yn cwmpasu gwyddoniaeth yn y gweithle a rolau'r technegydd a'r ymchwilydd gwyddonol. Byddwch yn astudio wyth uned orfodol y mae dau ohonynt yn cynnwys arholiadau:-

  • Egwyddorion Gwyddoniaeth (dan arholiad)
  • Cemeg a'r ddaear
  • Egni a'r bydysawd
  • Bioleg a'r amgylchedd
  • Cymwysiadau sylweddau cemegol
  • Cymwysiadau gwyddoniaeth ffisegol
  • Cymwysiadau gwyddoniaeth o ran lles
  • Sgiliau gwyddonol (dan arholiad)

Mae'r cyfuniad hwn yn sicrhau eich bod yn astudio cysyniadau allweddol bioleg, cemeg a ffiseg ynghyd â dysgu am weithleoedd y galwedigaethau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth.

Datblygir y cysyniadau allweddol hyn ymhellach yn yr unedau arbenigol dewisol y gellir eu trosglwyddo i sectorau cyflogaeth megis gofal, gwyddor chwaraeon, gwyddoniaeth fforensig a'r diwydiant maeth. Mae'r unedau hyn yn cynnwys:

  • Y Corff Byw
  • Ymchwilio i Safle Trosedd
  • Dadansoddi a Chanfod Cemegol
  • Archwilio Ein Bydysawd

Bydd disgwyl i chi ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg er mwyn ennill gradd C ar gyfer cyrsiau lefel uwch (os yn angenrheidiol).

Byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2
  • Gweithgareddau i Ddatblygu Sgiliau Trosglwyddadwy
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch arnoch, gan gynnwys pwnc gwyddoniaeth a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Rhaid i chi feddu ar ddiddordeb mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a’r ysgogiad i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofyniad. Parch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-ysgogiad yw'r rhinweddau yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Disgwylir i chi barhau â'ch astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Lefel 3) neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Astudiaethau Iechyd (Lefel 3).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2?

PFDI0670AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr