City & Guilds Cwrs Sylfaen mewn Systemau Plastro a Mewnol Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 4 TGAU, Gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu Gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Os hoffech chi ddod yn blastrwr, mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi! Gallwch chi ddysgu hanfodion plastro a hanfodion plastro, paentio a sgiliau addurno yn ein gweithdy pwrpasol er mwyn i chi ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Hoffech chi ddilyn gyrfa fel plastrwr
... Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn crefftau adeiladug
... Hoffech chi gyfuno astudio ymarferol ag astudio damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau angenrhediol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa ym maes plastro.
Byddwch chi’n astudio unedau mewn:
- Amgylchedd Adeiledig
- Cyflwyniad i’r crefftau
- Cylch Byw yr Amgylchedd Adeiledig
- Cyflogadwyedd
- Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
- Technolegau Newydd
- Systemau Plastro a Mewnol
- Paentio ac Addurno
Caiff y cwrs ei asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein. Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Sylfaen mewn Plastro a Systemau Mewnol
- Cymwysterau ategol perthnasol i ehangu eich set sgiliau a bodloni gofynion diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol.
Bydd angen awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â dangos parch at bobl eraill, brwdfrydedd am y cwrs a hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus a disgwylir y byddwch chi’n parhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Lefel 2 Dilyniant mewn Gosod Briciau, prentisiaeth neu gyflogaeth
Lefel 2 Sylfaen mewn Gosod Briciau
Cymhwyster ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni gofynion diwydiant
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0658AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr