City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw, Gosodiadau a Chomisiynu Peirianneg Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Cymhwyster Lefel 2 City and Guilds mewn mecanwaith sydd, yn ddelfrydol, wedi ymdrin â chynnwys hydrolig a niwmatig. Neu, brofiad digonol mewn diwydiant a sgiliau i adeiladu arnynt (i’w cytuno arnynt fel gofyniad mynediad cymwys gan arweinydd y cwrs).
Yn gryno
Mae’r cwrs Lefel 3 hwn, sydd wedi’i achredu gan City & Guilds, yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ar Lefel 2. Mae’n berffaith ar gyfer technegwyr cynnal a chadw mewn amgylcheddoedd peirianneg neu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes hwn.
Dyma'r cwrs i chi os...
Rydych chi’n rhan o waith cynnal a chadw cyfarpar peiriannol mewn amgylcheddoedd peirianneg, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys ymchwilio i wallau ac atgyweirio mecanweithiau a systemau hydrolig a niwmatig.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch chi’n dysgu am:
· Iechyd a diogelwch peirianneg
· Egwyddorion peirianneg
· Egwyddorion cynnal a chadw, gosodiadau a chomisiynu peirianneg
· Cynnal a chadw systemau peiriannau
· Cynnal a chadw systemau hydrolig
· Cynnal a chadw systemau niwmatig
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Disgwylir y bydd gennych chi feddylfryd peiriannydd proffesiynol yn yr amgylchedd dysgu. Disgwylir i chi weithio’n ddiogel a meddu ar agwedd frwd at ddatrys problemau a dysgu.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallech chi symud ymlaen i ddiwydiant neu gwrs HNC (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyniad i chi wisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer pob agwedd ymarferol ar eich cwrs yn ystod amgylchedd y gweithdy.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0629AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr