En

VTCT Diploma mewn Darparu Therapïau i Gleientiaid â Chanser neu Gyflwr sy'n Cyfyngu ar Fywyd arall Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£1120.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
25 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
18:00

Hyd

Hyd
11 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae’n rhaid i chi fod yn therapydd cyflenwol cymwysedig gan feddu ar gymhwyster Lefel 3 yn o leiaf un o’r tair prif ddisgyblaeth therapi cyflenwol sef aromatherapi, adweitheg a thylino, gan gynnwys anatomi a ffisioleg.

Yn gryno

Bydd Diploma VTCT Lefel 4 mewn Darparu Therapïau ar gyfer cleientiaid gyda Chanser neu Gyflyrau Eraill sy’n Cyfyngu ar Fywyd yn eich paratoi chi i weithio mewn lleoliad gofal iechyd yn darparu therapïau cyflenwol i gleientiaid sy’n dioddef o gyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n ddifrifol fregus. Mae therapïau cyflenwol ar gael yn eang i bobl gyda chanser ac, yn gynyddol, i gleifion sydd ag ystod o gyflyrau meddygol hirdymor a chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Caiff y therapïau hyn eu cyflwyno ochr yn ochr â thriniaethau traddodiadol, yn aml, yn y lleoliad gofal iechyd, a’r nod yw darparu cymorth seicolegol ac emosiynol trwy leddfu symptomau.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Rydych chi’n therapydd cyflenwol cymwysedig.

...Rydych chi’n meddu ar gymhwyster Lefel 3 yn o leiaf un o’r tair therapi cyflenwol sef aromatherapi, adweitheg a thylino, gan gynnwys anatomi a ffisioleg.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Trwy’r cymhwyster hwn byddwch chi’n datblygu eich sgiliau rhyngbersonol wrth ehangu eich dealltwriaeth am ddarparu therapïau i gleientiaid gyda chanser neu gyflyrau eraill sy’n cyfyngu ar fywyd. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio i roi’r wybodaeth hanfodol i’ch cynorthwyo â darparu eich sgiliau therapiwtig mewn lleoliad clinigol.

Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n astudio sgiliau cyfathrebu effeithiol, cynnal ymgynghoriadau â chleientiaid, cynllunio triniaethau a chadw cofnodion, ymarfer myfyriol, darparu triniaethau therapi cyflenwol, addasu triniaethau ac ymwybyddiaeth o gyfnodau salwch, strwythur a swyddogaeth gwasanaethau gofal iechyd, cysyniad a chyfrinachedd, cod proffesiynol moeseg a deddfwriaeth.

Ymhlith yr unedau sy’n cael eu haddysgu, mae:

  • Egwyddorion darparu therapïau cyflenwol mewn lleoliad gofal iechyd
  • Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer y therapydd cyflenwol
  • Darparu therapïau cyflenwol i bobl â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd

Cewch eich asesu drwy greu portffolio o dystiolaeth, profion ysgrifenedig, arsylwadau ac astudiaethau achos i gynnwys ymarfer adfyfyriol. Bydd gofyniad i chi ddarparu eich cleientiaid eich hun ar gyfer astudiaethau achos a chynnal a chofnodi tystiolaeth ar gyfer o leiaf 8 astudiaeth achos a bydd o leiaf 3 o’r rhain yn derbyn o leiaf 2 driniaeth ddilynol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi feddu ar hunan-gymhelliant, bod yn gyfeillgar gan feddu ar sgiliau rhyngbersonol da, dangos sgiliau meddwl yn feirniadol, gallu rheoli amser yn dda a gallu dangos lefel ardderchog o bresenoldeb a phrydlondeb.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio i arwain at gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, naill ai’n hunan-gyflogedig, mewn clinig therapi cyflenwol neu gyfleusterau harddwch neu sba neu mewn practis priefat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylchedd gofal iechyd arall.


Er prif ddiben y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, gall dysgwyr ddewis i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau trwy gwblhau cymhwyster arbenigol pellach ar lefel 4 mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

- VTCT Lefel 4 Diploma Mewn Aromatherapi ar gyfer Therapydd Cyflenwol
- VTCT Lefel 4 Diploma mewn Adweitheg ar gyfer Therapydd Cyflenwol
- VTCT Lefel 4 Diploma mewn Tylino ar gyfer Therapydd Cyflewnol  

Mae’r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â chyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol yn y sector therapi tylino. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth, y sgiliau a’r galluoedd sy’n cael eu hennill yn rhoi’r cyfle gorau posibl ar gyfer dilyniant i gyflogaeth.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gefnogi’n ffurfiol gan y sefydliadau canlynol:
- Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyniad i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a ffioedd cofrestru. Telir ffioedd dysgu wrth gofrestru. Os bydd angen, gall hyn fod trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw’ch cyflogwr yn talu am eich cwrs, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o hyn er mwyn i’r coleg allu trefnu i anfon anfoneb ato.

Mae’n hanfodol eich bod chi’n gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Darparu Therapïau i Gleientiaid â Chanser neu Gyflwr sy'n Cyfyngu ar Fywyd arall Lefel 4?

CPDI0582AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 25 Tachwedd 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr