En

VTCT Diploma mewn Tylino ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£1080.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Mawrth 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
18:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Tylino gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg.

Yn gryno

Mae’r Diploma VTCT Lefel 4 mewn Tylino ar gyfer y Therapydd Cyflenwol wedi’i gynllunio i ddatblygu ymhellach y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o dechnegau a chymwysiadau tylino uwch. Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ychwanegu technegau ychwanegol ar gyfer cymhwyso triniaeth at eich repertoire presennol wrth ddatblygu eich gwybodaeth am y theorïau a’r arferion ar gyfer cymwysiadau tylino uwch

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych chi’n therapydd cyflenwol cymwysedig

...mae gennych gymhwyster Lefel 3 mewn o leiaf un o dair prif ddisgyblaeth therapi cyflenwol, sef aromatherapi, adweitheg a thylino gan gynnwys anatomeg a ffisioleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Drwy'r cymhwyster hwn byddwch yn datblygu eich sgiliau rhyngbersonol wrth ehangu eich dealltwriaeth o dechnegau tylino uwch. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth hanfodol i chi i’ch helpu i ddarparu sgiliau therapiwtig uwch mewn lleoliad clinigol.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymdrin â sgiliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnal asesiadau goddrychol a gwrthrychol o gleientiaid, cynllunio triniaeth, technegau tylino uwch fel rhyddhau meinwe feddal, technegau egni cyhyrol a phwyntiau sbardun, ymarfer myfyriol, anatomeg a ffisioleg.

Mae’r unedau dan sylw yn cynnwys:

  • Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer y therapydd cyflenwol
  • Anatomeg a ffisioleg uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol
  • Therapi tylino lefel uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol

 

Asesir drwy greu portffolio o dystiolaeth, profion ysgrifenedig, arsylwadau ac astudiaethau achos sy’n cynnwys ymarfer myfyriol. Bydd gofyn i chi ddarparu eich cleientiaid eich hun ar gyfer astudiaethau achos a chynnal a chofnodi tystiolaeth ar gyfer o leiaf 30 triniaeth ar 15 cleient gydag o leiaf ddwy driniaeth i bob cleient.

Drwy'r cymhwyster hwn byddwch

yn datblygu eich sgiliau

rhyngbersonol wrth ehangu eich

dealltwriaeth o dechnegau tylino

uwch. Mae’r cymhwyster hwn

wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth

hanfodol i chi i’ch helpu i ddarparu

sgiliau therapiwtig uwch mewn

lleoliad clinigol.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn

ymdrin â sgiliau cyfathrebu

effeithiol, gan gynnal asesiadau

goddrychol a gwrthrychol o

gleientiaid, cynllunio triniaeth,

technegau tylino uwch fel rhyddhau

meinwe feddal, technegau egni

cyhyrol a phwyntiau sbardun,

ymarfer myfyriol, anatomeg a

ffisioleg.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi fod yn llawn hunangymhelliant a brwdfrydedd, yn gyfeillgar gyda sgiliau rhyngbersonol da, dangos sgiliau meddwl beirniadol, yn rheolwr amser da a gallu dangos presenoldeb a phrydlondeb rhagorol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i arwain at gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, naill ai’n hunangyflogedig, mewn clinig therapi cyflenwol, cyfleusterau harddwch neu sba neu mewn practis preifat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylcheddau gofal iechyd eraill.

Er mai prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, efallai y bydd dysgwyr yn dewis datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymhwyster arbenigol ar Lefel 4 mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:


- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Darparu Therapïau i Gleientiaid sydd â Chanser neu Gyflyrau eraill sy’n Cyfyngu ar Fywyd
- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Adweitheg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol
- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol

Datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd â chyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol yn y sector therapi tylino. Oherwydd hyn, bydd y wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau a enillir yn rhoi’r cyfle gorau posibl i symud ymlaen i gyflogaeth.

Cefnogir y cymhwyster hwn yn ffurfiol gan y sefydliadau canlynol:
- Ffederasiwn Therapyddion Holistig

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.

Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae’n rhaid talu’r ffioedd dysgu wrth archebu/cofrestru. Os oes angen, gall hyn fod drwy ddebyd uniongyrchol, dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o hyn er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Tylino ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4?

CPDI0504AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Mawrth 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr