En

VTCT Diploma mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£1080.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau a Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
18:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Rhaid bod chi yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Aromatherapi, gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg.

Yn gryno

Cynlluniwyd y Diploma Lefel 4 VTCT mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau a chymwysiadau aromatherapi uwch ymhellach. Mae hyn yn cynnwys eich gwybodaeth am olewau ychwanegol a'u defnyddiau therapiwtig yn ogystal â damcaniaethau ac arferion cymhwyso aromatherapi rhagnodol ar lefel uwch.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych chi’n therapydd cyflenwol cymwys

...ydych chi’n meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Aromatherapi gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Trwy'r cymhwyster hwn byddwch chi’n datblygu eich sgiliau rhyngbersonol tra’n ehangu eich dealltwriaeth o aromatherapi uwch. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddarparu’r wybodaeth hanfodol a fydd o gymorth wrth i chi i gymhwyso sgiliau therapiwtig uwch mewn lleoliad clinigol.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am: sgiliau cyfathrebu effeithiol, paratoi ar gyfer triniaeth Aromatherapi ac asesu cleientiaid, cynllunio a chymysgu triniaeth, gwyddor fotanegol planhigion, cyfansoddiad cemegol olewau hanfodol, strategaethau Aromatherapi, tylino Aromatherapi, ôl-ofal a gofal cartref ac anatomeg a ffisioleg uwch.

Mae’r unedau a gwmpesir yn cynnwys:

  • Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer y therapydd cyflenwol
  • Anatomeg a ffisioleg uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol
  • Aromatherapi Uwch ar gyfer y therapydd cyflenwol

Cynhelir asesiadau trwy greu portffolio o dystiolaeth, profion ysgrifenedig, arsylwadau ac astudiaethau achos i gynnwys arfer myfyriol. Bydd gofyn i chi ddarparu eich cleientiaid eich hun fel astudiaethau achos a chynnal a dogfennu tystiolaeth ar gyfer o leiaf 30 o driniaethau (5 cleient yn derbyn 6 triniaeth yr un).

 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn gyfeillgar, meddu ar sgiliau rhyngbersonol da, dangos sgiliau meddwl beirniadol, rheoli amser yn dda ac yn gallu dangos presenoldeb a phrydlondeb rhagorol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain cyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau, naill ai'n hunangyflogedig mewn clinig therapi cyflenwol, cyfleusterau harddwch/sba, neu mewn practis preifat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylcheddau gofal iechyd eraill.

Er mai prif ddiben y cymhwyster hwn yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, gallwch ddewis datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymhwyster arbenigol ar Lefel 4 mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Darparu Therapïau i Gleientiaid â Chanser neu Gyflyrau eraill sy'n Cyfyngu ar Fywyd

- Diploma Lefel 4 VTCT mewn Adweitheg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol

- Diploma VTCT Lefel 4 mewn Tylino ar gyfer y Therapydd Cyflenwol

Datblygwyd y cymhwyster hwn ar y cyd â chyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol o fewn y sector therapi tylino. Oherwydd hyn, bydd y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau a enillir yn rhoi'r cyfle gorau posib i symud ymlaen i gyflogaeth.

Cefnogir y cymhwyster hwn yn ffurfiol gan y sefydliadau canlynol:
- Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn ofynnol i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.

Mae’r ffioedd cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Bydd y ffioedd tiwtora yn ddyledus ar adeg archebu/ymrestru. Gellir talu hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad os bydd rhaid. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad o hyn mewn ysgrifen fel bod y coleg yn gallu trefnu i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod yn gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes

Mae triniaeth aromatherapi yn costio rhwng £50 a £75 yr awr a llai os ydych chi’n cynnig cwrs o driniaethau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Aromatherapi ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4?

CPDI0503AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr