YMCA Diploma mewn Tylino ar gyfer Perfformio Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£160.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Dydd Llun a Dydd Gwener
Amser Dechrau
08:30
Amser Gorffen
16:30
Hyd
17 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno dechrau ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Perfformiad.
- 16 oed neu hŷn.
- yn ddigon ffit i dylino’r corff.
- meddu ar sgiliau cyfathrebu sylfaenol.
Yn gryno
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i dylino ar lefel sylfaenol ar feinwe nad yw’n batholegol, efallai fel atodiad at hyfforddiant personol neu sesiwn yn y gampfa.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu tylino er mwyn paratoi ac adfer ar ôl gweithgareddau caled.
Mae hefyd yn bodloni’r gofyniad cyn-mynediad ar gyfer Tystysgrif Lefel 4 newydd YMCA mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Camweithrediad Meinwe Meddal), yr unig gymhwyster sydd wedi’i fapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer mynediad i SMA ar gyfer aelodaeth fel therapydd tylino chwaraeon.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Gweithwyr proffesiynol cymwys ym maes ffitrwydd
... Unrhyw un sy’n chwilio am yrfa fel therapydd tylino chwaraeon.
Beth fyddaf yn ei wneud?
I ennill Diploma YMCA Lefel 3 mewn Tylino Perfformiad, bydd angen i chi gyflawni 8 uned orfodol:
- Hanfodion anatomeg a ffisioleg (M/650/4982)
- Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth o iechyd (K/616/7949)
- Anatomeg a ffisioleg bellach ar gyfer tylino perfformiad (L/650/1361)
- Ymarfer tylino proffesiynol (M/650/1362)
- Egwyddorion camweithrediad meinwe feddal (A/650/6136)
- Asesu cleientiaid a chynllunio triniaeth (R/650/1363)
- Defnyddio tylino perfformiad (Y/650/1365)
- Darparu cyngor gofal ar ôl triniaeth (T/650/1364)
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hwn yn gymhwyster ymarferol a theori, felly byddwch yn ennill profiad ymarferol i atgyfnerthu eich gwybodaeth theori.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPDI0498AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr