City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Technoleg Drydanol ac Electronig) Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Bydd y Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg yn eich galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol mewn peirianneg drydanol ac electronig.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn drydanol ac electroneg
...Rydych chi'n weithgar ac yn ymroddedig
...Rydych chi am ddilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol
Beth fyddaf yn ei wneud?
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gwblhau ystod o unedau gorfodol ac unedau dewisol, gan gynnwys:
- Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
- Egwyddorion Technoleg Peirianneg
- Defnyddio a chyfleu gwybodaeth dechnegol
- Cynnal a chadw systemau cymorth gwifrau trydanol
- Egwyddorion technoleg trydanol ac electronig
- Gwifrau a phrofi cylchedau trydanol
- Adeiladu cylchedau trydanol, eu profi a dod o hyd i namau arnynt
Byddwch chi’n dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle.
Cewch eich asesu drwy arholiadau, gwaith cwrs, portffolios, asesiadau mewn labordai ac asesiadau ymarferol. Ar ôl eu cwblhau, byddwch chi’n ennill:
- Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Technoleg Peirianneg Drydanol ac Electronig
- Agored
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
- Efallai y bydd modd sefyll arholiad haen uwch TGAU Mathemateg er mwyn symud ymlaen i Lefel 3
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd C a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Lefel 1 priodol.
Bydd angen ichi fod â sgiliau rhifedd, bod yn greadigol a bod â diddordeb ysol mewn peirianneg drydanol neu electronig. Disgwyliwn hefyd ichi fod â hunangymhelliant, a bod yn weithgar, yn brydlon ac yn ymrwymedig.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Peirianneg – Technoleg Drydanol ac Electronig
- Symud yn eich blaen at Brentisiaeth addas neu waith fel technegydd Trydanol neu Electronig.
- Gwaith yn y diwydiant
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0463AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr