EAL Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
£1675.00
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
17:30
Amser Gorffen
21:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol yn rhoi dealltwriaeth eang ond manwl i chi o waith a sgiliau trydanwr. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel Trydanwr yn y diwydiant adeiladu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth neu yrfa fel gosodwr trydanol
... Rydych eisoes wedi cyflawni Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn gwaith trydanol
... Rydych am gael gwybodaeth ymarferol a gwybodaeth theori
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau trydanol yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut i osod a phrofi amrywiaeth o gylchedau trydanol yn ein gweithdai helaeth eu hoffer.
Byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o unedau yn ystod y cwrs, gan gynnwys:
- Gwaith Gosod Trydanol
- Deall Sut mae Gosod Amgaeadau ar gyfer Ceblau Trydanol, Dargludyddion a Systemau Weirio
- Deall Sut mae Gosod a Chysylltu Ceblau, Dargludyddion, Systemau Weirio a Chyfarpar Trydanol
- Deall Sut mae Archwilio a Phrofi Cylchedau Trydanol wedi’u Dad-wefru
- Deall Gwyddoniaeth ac Egwyddorion Trydanol Canolradd
Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein.
Gofynion Mynediad
I ymuno â’r cwrs, bydd arnoch angen Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Astudiaethau Trydanol
A naill ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dysgwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn symud ymlaen i Brentisiaeth neu Gyflogaeth ym maes Gosodiadau Trydanol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EEDI0434AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr