En

EAL Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£525.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol yn rhoi dealltwriaeth eang ond manwl i chi o waith a sgiliau trydanwr. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel Trydanwr yn y diwydiant adeiladu.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth neu yrfa fel gosodwr trydanol
... Rydych eisoes wedi cyflawni Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn gwaith trydanol
... Rydych am gael gwybodaeth ymarferol a gwybodaeth theori

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau trydanol yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.

Byddwch yn dysgu sut i osod a phrofi amrywiaeth o gylchedau trydanol yn ein gweithdai helaeth eu hoffer.

Byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o unedau yn ystod y cwrs, gan gynnwys:

  • Gwaith Gosod Trydanol
  • Deall Sut mae Gosod Amgaeadau ar gyfer Ceblau Trydanol, Dargludyddion a Systemau Weirio
  • Deall Sut mae Gosod a Chysylltu Ceblau, Dargludyddion, Systemau Weirio a Chyfarpar Trydanol
  • Deall Sut mae Archwilio a Phrofi Cylchedau Trydanol wedi’u Dad-wefru
  • Deall Gwyddoniaeth ac Egwyddorion Trydanol Canolradd

Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein.

Gofynion Mynediad

I ymuno â’r cwrs, bydd arnoch angen Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Astudiaethau Trydanol

A naill ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae dysgwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn symud ymlaen i Brentisiaeth neu Gyflogaeth ym maes Gosodiadau Trydanol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 2?

NPDI0434AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr