City & Guilds Dilyniant mewn Peintio ac Addurno Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Er mwyn ymuno â’r cwrs, mae angen Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu ystod o dechnegau peintio ac addurno ar lefel ganolradd.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisoes wedi cyflawni’r Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno
... Hoffech ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch sgiliau
... Ydych yn mwynhau astudio drwy ddysgu ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn datblygu’r arbenigedd i weithio yn annibynnol a sefydlu amgyffred cadarn o effeithiau addurniadol uwch. Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
- Gosod a datgymalu offer mynediad a llwyfannau gwaith
- Paratoi arwynebau ar gyfer addurno
- Taenu systemau paent gyda brwsh a rholer
- Taenu sylfaen a phapurau plaen
- Cynhyrchu caboliadau addurniadol arbenigol
- Taenu a chreu lliw
Addysgir y cwrs drwy sesiynau ymarferol a chyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein a byddwch yn cyflawni’r cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewn Peintio ac Addurno
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn ymuno â’r cwrs, mae angen Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Peintio ac Addurno, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0388AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr