EAL Dilyniant mewn Plymio a Gwresogi Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
16 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Cwrs Lefel 2 (Sylfaen) mewn Astudiaethau Plymio, Unedau Craidd o gwrs Adeiladu Lefel 2 a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd C neu uwch.
Yn gryno
Mae’r cwrs Plymio Lefel Cynnydd yn rhoi mewnweediad eang, ond manwl, i chi ar waith a sgiliau plymer. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at yrfa fel plymer yn y diwydiant adeiladu.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rhai sydd eisiau gyrfa fel plymer
... Rhai sydd eisiau mynd ymlaen i astudio cymhwyser Lefel 3 mewn Plymio
... Rhai sydd eisiau ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol am blymio
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Astudiaethau Plymio yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut i ddelio gyda pheipiau sy’n gollwng, a systemau dwr a draenio yn ein gweithdai llawn offer.
Byddwch yn astudio nifer o unedau yn ystod y cwrs, yn cynnwys:
- Egwyddorion gwyddonol ar gyfer plymio domestig, diwydiannol a masnachol
- Prosesau plymio cyffredin
- Systemau dwr oer
- Systemau dwr poeth domestig
- Glanweithdra
- Systemau gwres canolog
- Systemau draenio
Cyflwynir y cwrs trwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Astudiaethau Plymio
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen City and Guilds Lefel 2 gradd sylfaen mewn Plymio a, naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Astudiaethau Plymio, gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach gyda prentisiaeth ar Lefel 3, neu gwrs Sylfaen Nwy, neu Lefel 3 Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu Lefel 3 Peirianneg Sifil.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0341AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 16 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr