En

YMCA Diploma mewn Hyfforddi Ffitrwydd, Hyfforddiant Personol a Hyfforddiant Cylchedau Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£150.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
15:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i fod yn Hyfforddwr Ymarfer Campfa a Grŵp, ac yn Hyfforddwr Personol (fel y nodir yn safonau proffesiynol CIMSPA)

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un sydd am ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.

Cynnwys y cwrs

Pwrpas y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • Cynnal iechyd, diogelwch a hylendid mewn amgylchedd campfa
  • Goruchwylio a chefnogi cyfranogwyr mewn amgylchedd campfa.
  • Cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglenni ymarfer corff yn y gampfa
  • Cynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddiant cylchol i grwpiau.
  • Ymgynghori ac asesu anghenion cleientiaid a'u cefnogi tuag at eu nodau iechyd a ffitrwydd
  • Cynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddiant personol dan do ac yn yr awyr agored i gefnogi unigolion (un-i-un) a grwpiau bach.
  • Defnyddio dulliau marchnata i hyrwyddo eu busnes hyfforddi personol eu hunain.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cymhwyster hwn yn gymhwyster mynediad galwedigaethol. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni’r rhagofynion diwydiant y cytunwyd arnynt i ymuno â’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel Hyfforddwr Campfa, Hyfforddwr Ymarfer Grŵp a Hyfforddwr Personol cyflogedig neu hunangyflogedig.

Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefelau a/neu lefelau uwch i arbenigo a chynyddu cwmpas ymarfer. Er enghraifft:

  • Arbenigeddau poblogaeth (i weithio gydag ystod ehangach o gleientiaid)
  • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Pobl Anweithgar â Gweithgaredd Corfforol i Greu Newid Ymddygiad Hirdymor (603/7345/3)
  • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Plant 0-5 Oed â Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (603/7218/7)
  • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc â Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (603/7216/3)
  • Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol. Amenedigol
  • (610/0829/1) Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol. Anabledd a Namau
  • (610/1559/1)Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad 
    • mewn Gweithgarwch Corfforol: Oedolion Hŷn (610/1668/8)
    • Diploma YMCA Lefel 3 mewn Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff (603/3103/3)

      Arbenigedd amgylcheddol (i weithio mewn mwy o leoliadau)

      • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Datblygu Rhaglenni Gweithgaredd Corfforol Cynaliadwy. Mewn Lleoliadau Cymunedol (603/7343/á)

      Arbenigedd technegol (gweithio gydag offer penodol neu gyflawni rolau ychwanegol yn y gweithle):

      • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Arwain Hyfforddiant Kettlebell (603/7186/9)
      • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Arwain Hyfforddiant Symudiad Crog (603/7187/0)
      • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Deall Dulliau i Gefnogi Unigolion (603/7146/8)
      • Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Diogelu Oedolion ac Oedolion sy’n Wynebu Risg (6/10/0822/9)
      • Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (603/1902/1)
      • Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (603/1903/3)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio YMCA Diploma mewn Hyfforddi Ffitrwydd, Hyfforddiant Personol a Hyfforddiant Cylchedau Lefel 3?

UPDI0337AB
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr