VTCT Diploma mewn Adweitheg Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£814.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
17:00
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ragofynion na gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ond mae cefndir academaidd cadarn yn hanfodol.
Mae presenoldeb llawn yn hanfodol i gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus.
Yn gryno
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o egwyddorion ac ymarferion ac arferion busnes ar gyfer therapïau cyflenwol.
Ar ben hynny, byddwch yn dysgu am anatomeg, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i gynnig triniaethau adweitheg safonol.
Mae hwn yn gymhwyster lefel ymarferwr.
Gellir talu ffioedd y cwrs dros 5 mis.
Dyma'r cwrs i chi os...
...y rhai sy’n mwynhau popeth yn ymwneud â therapïau cyfannol
...unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn therapïau cyflenwol
...gweithwyr diwyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs yn ymdrin â'r unedau canlynol:
- Egwyddorion ac ymarferion therapïau cyflenwol
- Ymarfer busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
- Gwybodaeth am anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Darparu adweitheg ar gyfer therapïau cyflenwol
Darperir y cwrs drwy:
- Wersi theori
- Sesiynau dysgu ymarferol
- Sesiynau clinig
- Ymchwil ac astudiaethau achos
Cewch eich asesu trwy arsylwadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac astudiaethau achos ac ar ôl gorffen byddwch yn cyflawni'r Diploma VTCT L3 mewn Adweitheg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Er mwyn adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn ariannu cost un wisg lawn y flwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i'w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y cyflenwr wedi’i gymeradwyo os/pan fydd angen.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Mae gofynion eraill yn cynnwys:
- Esgidiau da, fflat, cyfforddus (dim canvas)
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl oddi wrth yr wyneb yn ystod yr holl sesiynau clinig
- Dim gemwaith a dim tlysau (heblaw modrwy briodas)
- Ni chaniateir unrhyw estyniadau ewinedd na farnais ewinedd. Ewinedd glân, byr ac wedi’u ffeilio
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPDI0335AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr