En

City & Guilds Diploma mewn Trwsio Cerbydau ar ôl Damwain - (Egwyddorion Paentio) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn gosod sylfaen ar gyfer Gweithrediadau Ailorffen Cerbydau er mwyn rhoi cychwyn cadarn i chi yn y diwydiant.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi wedi cwblhau’r cwrs Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2

... Rydych chi’n meddu ar brofiad yn y diwydiant Ailorffen Cerbydau

... Hoffech chi ehangu eich sgiliau a’ch gwybodaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant i’r cwrs amser llawn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2 ac mae’n canolbwyntio ar 3 phrif uned:

  • Paru lliw paent cerbyd
  • Gweithrediadau ailorffen prif haen cerbyd
  • Namau paent uwch

Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gweithio realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
  • Gwaith aseiniad

Cewch eich asesu drwy asesiadau ymarferol ac asesiadau ar-lein, cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig ac, ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

  • Cwblhau cymhwyster Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2
  • 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth (neu Cymraeg fel iaith gyntaf)

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyflogaeth yn y diwydiant modurol neu brentisiaeth mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen Cyfarpar Diogelu Personol arnoch chi megis esgidiau a throswisg, ar gost o oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen eich deunydd ysgrifennu eich hun arnoch chi.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Trwsio Cerbydau ar ôl Damwain - (Egwyddorion Paentio) Lefel 3?

NFDI0281AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr