AIM Diploma mewn Ymarfer Cwnsela Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Lefel
4
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£910.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
08 Medi 2025
Dydd Llun
Amser Dechrau
17:30
Amser Gorffen
20:30
Hyd
33 wythnos
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn darparu statws proffesiynol i chi mewn cwnsela, ac mae’n ychwanegu at y sgiliau a’r wybodaeth sydd gennych eisoes, er mwyn ennyn dealltwriaeth well o’r maes, gyda phwyslais ar brofiad gydol y lleoliad.
Cyflwynir y cwrs dros 2 flynedd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…rywun y mae ei waith o bosibl yn ymwneud â chwnsela, tebyg i nyrsio, dysgu, gwaith cymdeithasol neu waith gwirfoddol, yr heddlu neu’r lluoedd arfog.
Cynnwys y cwrs
Bydd y cymhwyster uwch hwn yn eich galluogi i weithio mewn fframwaith moesegol a datblygu dealltwriaeth o’r gofynion cyfreithiol a moesegol cwnsela. Disgwylir i chi wneud defnydd priodol o arolygiaeth cwnsela o 100 awr a gwerthuso eich gwaith eich hun - mae’r lleoliad hwn yn hanfodol i’ch datblygiad personol a phroffesiynol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela Seicotherapiwtig neu gymwysterau proffesiynol a fydd yn eich galluogi chi i weithio fel ymarferydd cwnsela.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi fod wedi cwblhau’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Cwnsela.
Bydd addasrwydd i astudio yn cael ei ystyried yn ystod y broses gyfweld.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o'r cwrs, bydd angen i chi wneud o leiaf 100 awr o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth. Mae hefyd yn ofynnol i bob myfyriwr ymgymryd â goruchwyliaeth glinigol fel rhan o'u lleoliad, efallai y bydd angen i hyn fod yn hunan-ariannu yn dibynnu ar y lleoliad.
Efallai y bydd eich Lleoliad yn gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS ar eich cost eich hun.
Darperir rhagor o wybodaeth yn ystod y cam cyfweld.
Rhennir taliad y ffi o £910.00 dros 2 flynedd fel a ganlyn: Blwyddyn 1: Medi 25 Cofrestru £165.00 Hyfforddiant £515.00 Taliad yn ddyledus ym Mlwyddyn 1 (Medi 25) - £680.00 Blwyddyn 2: Medi 26 Hyfforddiant £230.00 Taliad yn ddyledus ym Mlwyddyn 2 (Medi 26) - £230.00
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCDI0221AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 08 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr