City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
- Lefel 1 Cynnal a Chadw at Atgyweirio Cerbydau neu ddiploma Lefel 1 gyfwerth, a TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd D neu uwch, neu wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
- Neu Lefel 2 Gosod Cerbydau Cyflym gyda Theilyngdod ac wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
- Neu, mynediad uniongyrchol gyda 4 TGAU gradd D, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnolegol ac academaidd am dechnoleg cerbydau, yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu waith yn y diwydiant modurol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych wedi cwblhau’r Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn cerbydau
... Rydych yn dda am ddatrys problemau
... Rydych eisiau gweithio yn y diwydiant modurol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn cynnig astudiaeth ganolradd o’r dechnoleg a thechnegau atgyweirio sy’n gysylltiedig â cherbydau ysgafn, a bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn y diwydiant modurol.
Mae pum uned dechnegol wedi’u rhannu i dechnoleg fframiau, technoleg injan, technoleg trosglwyddo, technoleg drydanol ac electronig, ac agweddau cyffredinol (fel iechyd a diogelwch)
Darperir y cwrs drwy:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gweithio realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
- Gwaith aseiniad
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
-
- Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
- Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen ichi gwblhau Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn neu ddiploma Lefel 1 gyfwerth, a byddwch angen TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd D neu uwch, neu fod wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
Gallwch hefyd ymuno os ydych wedi cwblhau Lefel 2 Gosod Cerbydau Cyflym yn llwyddiannus gyda Theilyngdod ac wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
Mae hefyd opsiwn ichi ddod ar y cwrs yn uniongyrchol, gyda 4 TGAU gradd D, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl ichi gwblhau’r cwrs Lefel 2 hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at y Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn neu Brentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0212AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr