City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.
4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.
Yn gryno
Yn y cwrs Lefel 1 hwn, ceir dealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant modurol. Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio ym maes gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau a cherbydau ysgafn.
Os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, gall arwain at gwrs Diploma Estynedig mewn Peirianneg Cerbydau Modur, Rhaglen Peirianneg Uwch neu gwblhau prentisiaeth yn y diwydiant, ar ôl gorffen astudiaeth bellach.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn Peirianneg Fodurol.
...Hoffech weithio yn y sector Cerbydau Modur.
...Hoffech weithio mewn garej neu ddelwriaeth.
...Rydych yn mwynhau datrys problemau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn cynnwys cyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol.
Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig a wynebir mewn gweithle. Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
- Byd Peirianneg Cerbydau Modur
- Egwyddorion Cerbydau Trydan
- Archwilio systemau cerbydau
- Iechyd a Diogelwch Peirianneg Cerbydau Modur
- Peirianneg Cynnal a Chadw
- Deunyddiau Peirianneg
- Dylunio ac Adeiladu Cylched Drydanol
- Dehongli a Defnyddio Gwybodaeth am Wasanaeth
- Mathemateg a Gwyddoniaeth ar gyfer Peirianneg
- Gwyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol ar gyfer Peirianneg
Cewch eich asesu drwy:
- Arholiadau
- Gwaith cwrs
- Aseiniadau
- Portffolio
- Asesiadau ymarferol neu mewn labordy
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch wedi cwblhau:
- Diploma Cyntaf Lefel 1 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
- Paratoi ar gyfer Cyflogaeth (gweler gwefan Coleg Gwent am fanylion)
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (Uwchsgilio Mathemateg a Saesneg i radd C neu uwch, fydd yn cael ei ymgorffori yn yr amserlen addysgu)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.
4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.
Bydd angen i chi fod yn:
- rhifog a chreadigol a gyda diddordeb amlwg mewn Peirianneg Fodurol
- gallu cymell eich hun, yn gweithio’n galed, yn brydlon ac ymroddedig
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Cerbydau Modur.
- Diploma Lefel 2 mewn Gosod Cerbydau Cyflym
- Symud ymlaen at brentisiaeth neu gyflogaeth addas.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:
- hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith
- Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, cloriau i rannu pynciau, beiros, pensiliau, pren mesur a Chyfarpar Diogelu Personol (esgidiau trwm ac oferôls)
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0112AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr