En

VTCT Tystysgrif mewn Therapi Harddwch gyda Lleoliad Gwaith Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae Therapi Harddwch Lefel 3 ar gyfer dysgwyr Lefel 2 sy’n symud ymlaen i’w rhaglen Therapi Harddwch Lefel 3, neu ar gyfer therapyddion sydd eisoes wedi cymhwyso ar Lefel 2, ond heb gwblhau eu cymhwyster Lefel 3 fel rhan o’u hyfforddiant a’u cynnydd ym maes harddwch.

Mae hefyd wedi’i ddylunio ar gyfer therapyddion harddwch sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant harddwch a fyddai’n hoffi uwchsgilio i’n cwricwlwm newydd i gynnig gwasanaethau cyfoes newydd o ran triniaethau yn y gweithle.

Fel rhan o ofynion y cwrs, mae lleoliad gwaith undydd mewn salon neu sba o’ch dewis yn hanfodol er mwyn ennill hyder a phrofiad yn eich triniaethau therapi harddwch. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn rhoi profiad o’r diwydiant i chi.

Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer y rheini a hoffai symud ymlaen ac arbenigo mewn gofynion spa a Llongau Mordeithio, yn ogystal â salonau harddwch sy’n cynnig triniaethau newydd a chyfoes. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Steiner a sbaon a salonau lleol yn ein hardal leol, lle gallwn gynnig profiad gwaith sy’n rhoi cipolwg ar ragolygon gyrfa i’r dyfodol.

Dyma'r cwrs i chi os...

Rydych chi eisiau symud ymlaen i Therapi Harddwch Lefel 3 , neu os ydych chi wedi gweithio yn y diwydiant ers blynyddoedd lawer ac eisiau gwella ymhellach eich ystod o driniaethau therapi harddwch a gynigir yn eich gweithle.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cynnal:

  • Cwyro personol
  • Triniaeth drydanol yr wyneb
  • Tylino corff dull Sweden
  • Therapi cerrig
  • Dermablaenio Lefel 4 unwaith y bydd holl agweddau Lefel 3 y cwrs wedi’u cwblhau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn, gweithio’n galed a chynnal asesiadau ymarferol ar gleient sy’n talu gan fod y salon yn sefydliad salon hyfforddi realistig. Bydd gofyn i chi wneud rhai oriau o leoliad gwaith fel rhan o'ch astudiaethau cwrs sy'n cyd-fynd â'ch cydbwysedd bywyd a gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau eich rhaglen Lefel 3, mae opsiwn i symud ymlaen i raglen Lefel 4, lle mae posibilrwydd i agor eich busnes eich hun, gwneud cais i weithio ar longau mordeithiau neu chwilio am waith arall yn y sector. Mae gan y coleg lawer o gysylltiadau y gallwn eich cyfeirio atynt ar ôl cwblhau'r cwrs.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy’n talu, a dod â’ch cleient eich hun, lle bo angen, i gwblhau asesiadau ymarferol.

Fodd bynnag, os oes apwyntiadau allanol wedi’u trefnu, rhaid i’r cleientiaid hyn gael blaenoriaeth bob amser.

Cod gwisg:

  • Gwisg y mae’n rhaid ei gwisgo ar gyfer pob sesiwn ymarferol. Mae hwn yn ofyniad gorfodol
  • Rhaid clymu’r gwallt yn daclus yn ôl oddi ar yr wyneb
    • Colur dydd
    • Dim tyllau
    • Ni ellir gwisgo gemwaith heblaw modrwy briodas yn y salon

    Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu’r cit priodol, gan ein cyflenwr cymeradwy, sy’n costio tua £198 yn amodol ar adolygiad/cynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.

    Er mwyn adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a fydd yn cael ei archebu gan ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion am sut i archebu eich gwisg, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, gan Bennaeth eich Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Mae’r pris ar gyfer 2024/2025 yn oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.

    Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

    Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu ac mae’n bosibl y byddant yn newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Tystysgrif mewn Therapi Harddwch gyda Lleoliad Gwaith Lefel 3?

EFDI0445AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr