VTCT Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn dechrau gyrfa ym maes therapi harddwch. Byddwch chi’n dysgu am ofal croen, colur ac amrywiaeth o driniaethau i’r corff a hyn oll wrth weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chyfeillgar.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych chi’n dwlu ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau
... Mae gennych chi ddiddordeb mewn tueddiadau a thechnegau harddwch
... Rydych chi’n mwynhau gweithio â’ch dwylo a bod yn greadigol
... Rydych chi’n dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae gyrfa ym maes therapi harddwch yn cynnig cyfuniad buddiol o greadigrwydd, rhyngweithio personol a datblygu sgiliau. Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys triniaethau gofal croen, gosod colur, gofal ewinedd a dileu blew gan helpu cleientiaid i deimlo ar eu gorau. Wrth i’r diwydiant harddwch esblygu’n barhaus, mae’r llwybr gyrfa hwn yn cynnig cyfleoedd deinamig ar gyfer twf a’r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar lefelau hunan-barch a lefelau hyder unigolion.
Byddwch chi’n dysgu am ymgynghori â chleientiaid ac unedau megis:
- Trin Dwylo a Gofal Dwylo
- Trin Traed a Gofal Traed
- Gofal Croen a Gwaith ar yr Wyneb
- Manwerthu a Hyrwyddo Cynnyrch
- Derbynfa a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Celf Ewinedd
- Dylunio a gosod colur
- Triniaethau ar gyfer y llygaid gan gynnwys lliwio blew’r amrannau a’r aeliau a siapio aeliau
- Cwyro – wyneb a chorff
- Gallai unedau ychwanegol gynnwys estyniadau blew’r amrannau parhaol ac estyniadau ewinedd
Byddwch chi’n gweithio ar eich sgiliau mewn ystod o sesiynau ymarferol a sesiynau theori, gan weithio tuag at asesiadau ar gyfer eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o’r sector. Ceir sawl arholiad ar-lein yn ogystal ag asesiadau ymarferol gyda chleientiaid.
Yn ogystal â’ch cwrs, cewch eich annog i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau coleg mewnol
- Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a UK/World Skills
- Gweithgareddau cymunedol
- Diwrnodau ymwybyddiaeth am gynhyrchion a thriniaethau yn y diwydiant
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Yn seiliedig ar eich cymwysterau TGAU, rhoddir gwybod i chi a ydych chi’n fwy addas ar gyfer un o ddau lwybr asesu posibl – cymhwyster Diploma Lefel 2 NVQ/VRQ neu’r Diploma Technegol Lefel 2. Bydd eich tiwtor yn trafod hyn gyda chi yn ystod eich sesiwn anwytho.
Mae Therapi Harddwch yn sector sy’n seiliedig ar ymarfer ymarferol felly mae gweithio mewn ystafelloedd triniaeth, gweithio ar ddysgwyr eraill a gweithio gyda chleientiaid yn rhan fawr o’r cwrs.
Beth sy'n digwydd nesaf?
NVQ Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Therapïau Cyflenwol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit priodol, oddi wrth ein cyflenwr a gymeradwywyd, sy’n costio oddeutu £86, yn amodol ar adolygiad pris/cynnydd pris oherwydd chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau diwydiant, bydd gofyniad i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent i’w harchebu oddi wrth ein cyflenwr a gymeradwywyd. Cewch fanylion ynghylch sut i archebu eich gwisg, ac opsiynau talu’r cyflenwr gan eich Pennaeth Ysgol, eich Darlithydd neu’ch Technegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd pris oherwydd chwyddiant. Fel rhan o’r ymarfer proffesiynol, mae’n rhaid i wallt gael ei glymu yn ôl yn daclus oddi ar yr wyneb a modrwy briodas yw’r unig gemwaith a ganiateir yn y salon.
Gallai costau eraill godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0443AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr