UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i amrywiaeth o sgiliau sy'n ofynnol gan y diwydiannau creadigol, a bydd modd i chi loywi eich sgiliau creadigol ar gyfer y llwybr creadigol o'ch dewis o fewn meysydd y cyfryngau a ffotograffiaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi'n greadigol
... Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn niwydiannau'r cyfryngau neu ffotograffiaeth
... Ydych chi’n weithgar ac yn hunan-gymhellol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Beth fydda i yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd am weithio mewn swydd greadigol sydd yn cynnwys technoleg, ac sydd am symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn maes pwnc cysylltiedig (e.e. y cyfryngau creadigol, dylunio gemau, celf a dylunio neu ffotograffiaeth).
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth a'ch galluoedd ymarferol mewn amrywiaeth o brosesau a mathau o feddalwedd, gan gwblhau ystod o aseiniadau ymarferol. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ar aseiniadau ymarferol.
Byddwch yn cael mynediad at y cyfrifiaduron diweddaraf (gan gynnwys Apple Mac) a meddalwedd Adobe Creative Cloud, yn ogystal â chyfleusterau cyfoes o safon ardderchog.
Byddwch yn astudio cyfanswm o 8 uned:
- Uned 1: Cyflwyniad i ddulliau a sgiliau yn y cyfryngau creadigol
- Uned 2: Cyflwyniad i ddulliau cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol
- Uned 3: Deall y gynulleidfa wrth gynhyrchu ym maes y cyfryngau cymdeithasol
- Uned 4: Ymchwil cyd-destunol ar gyfer cynhyrchu ym maes y cyfryngau creadigol
- Uned 5: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg sain
- Uned 6: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg weledol
- Uned 7: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau rhyngweithiol
- Uned 8: Prosiect personol a chyflwyniad ar gynhyrchu yn y cyfryngau creadigol
Nid oes angen sefyll arholiadau, ond caiff pob aseiniad ei gymedroli dair gwaith y flwyddyn.
Fe'ch asesir drwy ymchwil a dadansoddi, gwaith ysgrifenedig, dylunio creadigol, y defnydd o dechnoleg, datrys problemau a gwerthuso. Ar gwblhau, byddwch yn ennill:
- Cymhwyster UAL Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau (Y Cyfryngau a Ffotograffiaeth)
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu'n uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 addas yn y maes galwedigaethol perthnasol.
Dylech fod yn gallu datblygu syniadau creadigol a bod yn fodlon i fynd ati i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunan-gymhelliant ac angerdd am y pwnc. Disgwylir hefyd i chi barhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn annibynnol yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ystod o Ddiplomâu Estynedig Lefel 3 Creadigol megis BTEC Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, UAL Lefel 3 mewn Ffotograffiaeth.
Bydd cwblhau Diploma Estynedig ar Lefel 3 yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch a phrifysgol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn Crosskeys, bydd modd i chi astudio yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cynnwys:
- Ystafell sgrin werdd i recordio golygfeydd ar gyfer ffilmiau a theledu
- Ystafelloedd sain ar gyfer recordio cerddoriaeth, effeithiau sain a throsleisio
- Gofod celf pwrpasol ar gyfer lluniadu a chreu cynhyrchion
- Stiwdio ffotograffiaeth broffesiynol
- Cyfleusterau ystafell dywyll
- Y defnydd o gamerâu ac offer eraill drwy gydol eich cwrs
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0064AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr