En

EAL Diploma mewn Technolegau Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), a Gwyddoniaeth gradd D neu'n uwch

neu gymhwyster Diploma Lefel 1 Priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy’n cynnwys Mathemateg. 

Yn gryno

Ymdrochwch ym myd peirianneg fecanyddol gyda'r cwrs ymarferol hwn. Byddwch yn meithrin sgiliau go iawn yn ein gweithdai a dysgu sylfeini peirianneg, gyda blas o weldio hefyd.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych chi'n mwynhau dysgu drwy wneud ac am ddatblygu sgiliau peirianneg go iawn mewn amgylchedd gweithdy. 

…ydych chi'n ystyried dyfodol yn y maes peirianneg ac am ennill sylfaen gadarn i symud ymlaen i Lefel 3 neu brentisiaeth. 

...ydych chi'n chwilfrydig am sut mae pethau yn cael eu gwneud ac am ddeall yr offer, technegau a'r deunyddiau sydd y tu ôl i systemau mecanyddol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn bwrw iddi wrth gyfranogi mewn sesiynau gweithdy lle byddwch yn dysgu sgiliau peirianneg allweddol fel ffitio a chydosod, defnyddio turn dwylo a weldio. Byddwch yn archwilio sut mae peirianneg yn effeithio ar yr amgylchedd, yn magu eich dealltwriaeth o fathemateg a gwyddoniaeth yng nghyd-destun peirianegol, ac yn datblygu technegau craidd a ddefnyddir ledled y diwydiant.

Cewch eich asesu drwy tasgau ymarferol, profion aml-ddewis ar-lein ac atebion ysgrifenedig byr. Ochr yn ochr â'ch cwrs, byddwch yn parhau i weithio ar eich Mathemateg a Saesneg a fydd o gymorth wrth i chi symud ymlaen i astudiaeth bellach neu'r gweithle

Beth a ddisgwylir ohonof i?

O leiaf 4 TGAU gradd D neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), a Gwyddoniaeth gradd D neu'n uwch

neu gymhwyster Diploma Lefel 1 Priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy’n cynnwys Mathemateg. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Dilyniant i Peirianneg Lefel 3
  • Cyflogaeth neu brentisiaeth yn y maes peirianneg fecanyddol gyda chwmnïau blaenllaw.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Diploma mewn Technolegau Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 2?

NFDI0402AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr