Gradd Sylfaen Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2025
Gofynion Mynediad
I ennill lle ar y cwrs hwn, byddwch angen 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg*, ac o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau ar Lefel A2 neu Raddau Uwch yr Alban mewn pwnc perthnasol. Bagloriaeth Cymru - Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei hystyried fel trydydd pwnc.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Cambridge gyda graddau TTT.
- Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda graddau TTT ar y cyfan.
- 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau Uwch Tystysgrif Gadael Iwerddon yn cynnwys pwnc perthnasol;
- Derbynnir cymwysterau cyfwerth â'r uchod hefyd.
Byddwn hefyd yn ystyried cryfder eich proffil academaidd cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon.
Yn gryno
Os ydych chi’n frwd dros yrfa ym maes Cryfder a Chyflyru, Asesu Anafiadau, Adsefydlu, a Thylino Chwaraeon, mae ein Gradd Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu, a Thylino yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant sy’n tyfu. Mae’n datblygu sgiliau ar gyfer yr agenda ehangach o ran iechyd a lles.
Mae myfyrwyr yn gwerthuso'r sail wyddonol ar gyfer paratoi ac adsefydlu perfformwyr chwaraeon, yn datblygu sgiliau technegol mewn cyflyru ac adsefydlu, ac yn cymhwyso egwyddorion proffesiynol mewn amgylcheddau cystadleuol ac anghystadleuol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Hoffech ddatblygu'ch gyrfa yn y sector hamdden a chwaraeon proffesiynol
... Ydych yn awyddus i ddatblygu sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant
... Ydych yn frwdfrydig dros weithio yn y meysydd Cryfder a Chyflyru, Asesu Anafiadau, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon
... Ydych yn chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa ac rydych yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd a gwella'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Wedi'i leoli ar Gampws Crosskeys Coleg Gwent a NIAC Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf, nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth ddeallusol a dealltwriaeth o'r disgyblaethau academaidd a chysyniadau allweddol sy'n sylfaen i Gyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon yn y DU a thramor.
Mae'r Radd Sylfaen mewn Cyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon (SCRAM) wedi'i sefydlu fel triongl gyda sylfaen ehangach o gyd-destun sylfaenol a ymgymerir â hi ym mlynyddoedd 1 a 2 ar gampws Crosskeys Coleg Gwent, cyn i chi ganolbwyntio ar faes astudio arbenigol yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae'r model hwn yn sicrhau y gallwch weithredu fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol, waeth beth fo'ch arbenigedd gyrfa yn y dyfodol.
Yn y flwyddyn astudio gyntaf, byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol:
Lefel 4 (blwyddyn un), Coleg Gwent, Campws Crosskeys:
- Ymchwil ac Ysgoloriaeth
- Datblygiad Proffesiynol
- Anatomeg ac Asesiad Clinigol
- Elfennau Sylfaenol mewn Cryfder a Chyflyru
- Cyflwyniad i Dylino ym maes Chwaraeon ac Ymarferion Meinwe Meddal
- Elfennau Sylfaenol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf, yn eich cynorthwyo chi i archwilio damcaniaethau sy'n sylfaen i feysydd craidd o gryfder a chyflyru, adfer a thylino ym maes chwaraeon gan ennill ffocws gwell ar gymhwyso'r wybodaeth hon:
Lefel 5 (blwyddyn dau), Coleg Gwent, Campws Crosskeys:
- Dylunio ac Ymarfer Ymchwil
- Hyfforddi Cryfder a Chyflyru
- Patholeg Anafiadau ac Adferiad
- Tylino ym maes Chwaraeon ac Ymarferion Meinwe Meddal
- Mentergarwch mewn Chwaraeon ac Iechyd
- Dulliau aml-ddisgyblaethol at Chwaraeon ac Iechyd
Dysgu ac Asesu
Gall y dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol hefyd yn agwedd annatod ar y pecyn dysgu a fydd yn cefnogi'ch astudiaethau.
Fel ysgol, rydym yn gweithio'n galed i gynnig cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac sy'n cyflwyno amgylchedd dysgu hyblyg, o ansawdd. Mae prif ddarlithwyr yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, ac mae seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o atgyfnerthu eich profiad a'ch ymgysylltiad fel myfyriwr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un.
Mae'r dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol, ac yn annog integreiddiad ymarferion a damcaniaethau. Drwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan fagu annibyniaeth a myfyrdod a'ch annog chi i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
Mae nodweddion penodol o brofiad dysgu Cyflyru, Adfer a Thylino ym maes Chwaraeon (SCRAM) yn cynnwys defnyddio llyfryddiaeth ymchwil diweddar a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (e.e. UKSCA, NSCA, SMA, BASRaT, Corff Llywodraethu Cenedlaethol, NGB, cymwysterau hyfforddi).
Mae'r dulliau asesu a ddefnyddir drwy gydol y cwrs wedi'u dylunio i atgyfnerthu eich profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu sydd ynghlwm â phob modiwl. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau asesu:
- Gwaith cwrs ysgrifenedig
- Cyflwyniadau poster
- Cyflwyniadau llafar
- Portffolios
- Arholiadau gweledig ac anweledig
- Sgiliau ymarferol
- Gweithgareddau eraill wedi'u dylunio i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael pump TGAU yn cynnwys TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg* (gradd 4 neu uwch i ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr).
*I ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Rifedd Mathemateg.
Gall cynigion nodweddiadol ofyn am:
- 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau ar Lefel A2 (gan gynnwys Astudiaethau Cyffredinol) neu Advanced Highers yr Alban yn cynnwys pwnc perthnasol. Bagloriaeth Cymru - Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ei hystyried fel trydydd pwnc.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Cambridge gyda graddau TTT.
- Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda graddau TTT ar y cyfan.
- 96 pwynt tariff UCAS yn cynnwys graddau Uwch Tystysgrif Gadael Iwerddon yn cynnwys pwnc perthnasol;
- Derbynnir cymwysterau cyfwerth â'r uchod hefyd.
Fel arfer, gwneir cynnig yn seiliedig ar yr ystod tariff a fanylir uchod a chryfder eich cais cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon.
I ymgeiswyr sy'n ymgymryd â 2 Lefel A yn unig (neu gyfwerth) neu nad oes disgwyl iddynt fodloni'r cynnig tariff safonol uchod, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gryfder y proffil academaidd cyfan ac mae'n bosibl y gwnawn gyhoeddi cynnig graddedig yn lle cynnig yn defnyddio Tariff UCAS.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf, cewch gynnig y cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant, yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant ymarfer corff ac iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn eich cefnogi chi i feddu ar gymwysterau a phrofiad priodol ychwanegol wrth i chi ddatblygu drwy'r rhaglen. Byddwn yn gweithio i'ch cefnogi i geisio profiad gwaith a chyfleoedd i weithio'n lleol a rhanbarthol, yn ogystal â thramor.
Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a thu hwnt iddo.
Bellach, mae graddedigion diweddar yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academïau yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar gyfleoedd mewn practis clinigol preifat neu leoliadau'r diwydiant ffitrwydd.
Gallwch hefyd barhau i wneud astudiaeth bellach ym maes Ffisiotherapi neu raglenni Meistr, megis MSc Adfer ym maes Chwaraeon gyda chefnogaeth BASRaT neu MSc Cryfder a Chyflyru a mynd ymlaen ymhellach i astudiaethau ar lefel doethur.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0068AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr