En

Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
15 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai angen o leiaf un o’r canlynol arnoch:

  • 48 pwynt UCAS – cyfrifiannell tariff UCAS: https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
  • Mynediad i AU lle rydych wedi cyflawni Diploma Pas gyda 45 Pas
  • Yn ogystal: Pasiau TGAU mewn tri phwnc gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a’r Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Sylwch: Os na chyflawnwch y meini prawf graddau, efallai y gellir ystyried eich oedran a’ch profiad.

Efallai y gofynnir i chi hefyd fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol.

Yn gryno

Os ydych chi’n frwdfrydig am gemau ac yn barod i ymuno â’r diwydiant, mae’r cwrs hwn wedi’i wneud ar eich cyfer chi.
Sianelwch eich creadigrwydd a’ch ysgogiad entrepreneuraidd wrth fabwysiadu arferion proffesiynol yn eich agwedd a’ch prosiectau. Gadewch i’ch brwdfrydedd eich arwain wrth i chi drawsnewid eich gweledigaethau gemau yn realiti. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau technegol i ddod â’ch syniadau yn fyw a chreu celf gemau cyfrifiadurol a dyluniad gemau’r genhedlaeth nesaf.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dylunio gemau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae chwaraewyr gemau heddiw yn disgwyl datblygiadau gemau a chelf gemau realistig a llawn dychymyg 2D/3D. Byddwch yn edrych ar gefndir chwarae gemau ac yn astudio agweddau gwahanol sy'n effeithio ar chwarae gemau, gan gynnwys cysyniadau, dyluniad a defnydd. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth dechnegol, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu dawn greadigol a sgiliau proffesiynol i roi i chi'r cyfle gorau o lwyddo yn y farchnad gemau cyfrifiadur. Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu gydag arbenigwyr gemau cyfrifiadur i ddarparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer y diwydiant.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1

  • Mewnosod Arian i Ddechrau
  • Cysyniadau a Dylunio
  • Ymosodiad Celf
  • Ymarfer Technegol
  • Gadewch i Ni Wneud Gêm!
  • Archwilio Gemau

Blwyddyn 2

  • Pecyn Ehangu
  • Archwiliad Pellach mewn Gemau
  • Pwyswch Chwarae i Barhau
  • Ymarfer Proffesiynol wrth Greu Gemau

Beth sy'n digwydd nesaf?

Wedi i chi gwblhau'r radd sylfaen, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i BA (Anrh) Celf Gemau, lle byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn maes penodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Efallai y bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

Y cod UCAS yw: 8C27

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau?

CFDG0049AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 15 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr