En

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae gofynion mynediad i gofrestru ar y cwrs hwn yn amrywio. Rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad blaenorol.

Efallai y bydd y gofynion yn cynnwys lleiafswm o 3 TGAU Gradd C neu uwch, (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu gyfwerth) ac o leiaf un o'r canlynol fel arfer:

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Yn gryno

Byddwch yn astudio'r agweddau proffesiynol o weithio mewn gofal plant, o gyfathrebu â chydweithwyr i ddeddfwriaeth a hawliau plant. Byddwch hefyd yn astudio pob agwedd ar blentyndod, o iechyd a datblygiad plant i addysg a chwarae.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa

...rydych eisiau ennill cymwysterau ffurfiol ar lefel gradd

...rydych eisiau ehangu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn astudiaethau plant

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn eich darparu â'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen arnoch i weithio'n llwyddiannus gyda phlant o bob oed. Byddwch hefyd yn datblygu rhinweddau personol megis hyblygrwydd a chymhelliant, sy'n hynod werthfawr yn y gweithle ac ar gyfer astudiaeth bellach.

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau a gweithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu harsylwi yn eich amgylchedd.

Blwyddyn 1 - Modiwlau Lefel 4

  • FC1D005 - Arwain Arfer o fewn Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc (LPwSCYP) - Portffolio
  • PE1S047 - Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch
  • FC1S018 - Cyflwyniad i Ymchwil gyda Phlant a Phobl Ifanc
  • FC1S020 - Cymhwyso Theori i Ddatblygiad Cyfannol Plant a Phobl Ifanc
  • FC1S017 - Arweinyddiaeth a Chynhwysiant o fewn Arfer sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn

Blwyddyn 2 - Modiwlau Lefel 5

  • FC2D029 - Portffolio Arfer Uwch mewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc (APCYPS).
  • FC2S013 - Materion Cwricwlwm
  • FC2S036 - Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc
  • FC2S037 - Chwarae a Hamdden
  • FC2S029 - Diogelu Plant a Phobl Ifanc

 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi sicrhau 100 awr mewn lleoliad gwaith, fel gwirfoddolwr neu gyflogaeth â thal.

Bydd disgwyl i chi ymrwymo i o leiaf 20 awr o astudiaeth annibynnol ar adegau allweddol o'r flwyddyn.

Byddwch yn mynd i'r coleg am un diwrnod llawn sy'n cychwyn yn y prynhawn bob wythnos.

Rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad yn y diwydiant.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gyda’r sgiliau a’r profiad y byddwch yn eu datblygu ar y cwrs hwn, gallwch weithio mewn ystod o feysydd gofal plant.

Ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn awtomatig i flwyddyn olaf y BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gan ddysgwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent y dewis ychwanegol i astudio ar gyfer Diploma Lefel 5 City & Guilds mewn Gweithio gyda Phlant a Phobl, sydd yn ofynnol ar gyfer cydnabod sgiliau'r sector yn y maes hwn.

Rhoddir masnachfraint ar gyfer y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

Y cod UCAS yw: LX53

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod?

CFDG0013AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr