AAT Uned Prosesau Treth i Fusnesau Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Busnes a Chyfrifeg
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£460.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
11 Mai 2026
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:45
Hyd
5 wythnos
Yn gryno
Mae'r Diploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol ar gyfer gyrfa yn y maes cyfrifeg neu ariannol. Mae'r uned Prosesau Treth ar gyfer Busnesau yn cwmpasu datganiadau TAW, cydymffurfiaeth â deddfau TAW a chyflogres, a deall deddfwriaeth. Mae hwn yn gwrs dysgu cymysg gyda dyddiadau dechrau hyblyg
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg
… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg
… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.
Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
- Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
- Technegau Cyfrifo Rheolaeth - Byddwch yn dod i ddeall y pwrpas a’r defnydd o gyfrifo rheolaeth ac yn dysgu'r technegau costio a thaenlen sy’n angenrheidiol ar gyfer sefydliadau, yn ogystal â'r egwyddorion y tu ôl i reoli arian parod.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.
Trwy ymgweisio yma, rydych yn prynu modiwl Prosesau Treth ar gyfer Busnes.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
Gofynion Mynediad
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu
- Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cwrs nos yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs nos Fawrth wyneb I wyneb ar y campws ar dydd Mawrth 5yp tan 9yp.
Bydd gofyn i chi gwblhau gweddill y cwrs bob wythnos ar-lein yn eich amser hun ar blatfform ar-lein Kaplan fel y cyfarwyddir gan eich tiwtor.
Bydd deunyddiau y cwrs prynhawn yn costi £50 y modiwl, cyfanswm o £200 ar gyfer y cymhwyster llawn.
Bydd y cwrs dydd yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs dydd Llun yn wyneb wyneb ar y campws ar ddydd Llun 9yb tan 16.45
Bydd deunyddiau'r cwrs hefyd rhwng £150 a £200 yn dibynnu ar y deunyddiau a ddewiswch.
Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i AAT) £240
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCDI0066DD
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 11 Mai 2026
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr