En

City & Guilds City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol (CRAIDD) Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£550.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau Trydanol sylfaenol yn ogystal â’r wybodaeth i’w hategu. Byddwch yn cael eich goruchwylio wrth i chi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a seiliedig ar wybodaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...hoffech chi gael cyflwyniad i Osodiadau Trydanol i arwain at gyrsiau uwch

...rydych chi’n awyddus i ennill sgiliau Trydanol

...rydych chi’n hoffi cwrs ymarferol 

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i'r diwydiant Trydanol sy'n dymuno ymgymryd â chwrs a fydd yn llwybr at astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhai sgiliau a gwybodaeth graidd, ynghyd â’r cyfle i symud ymlaen i’n cymhwyster Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol Lefel 2. Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:

  • Gwybodaeth, a’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn gosodiadau trydanol a phlymio
  • Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser;
  • Dealltwriaeth o’r crefftau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam;
  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol i’r gweithle, ac yn bwysig yn y gweithle, yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n gwarchod iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd, a’r gallu i’w cymhwyso;
  • Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein.

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Gymhwyster Sgiliau Adeiladu lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith 1af gradd D neu uwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Astudio cymhwyster dilyniant Lefel 2 ar y cwrs hwn yng Ngholeg Gwent, cyflogaeth neu brentisiaeth ar Lefel 3.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol (CRAIDD) Lefel 2?

NPDI0392AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr