AAT Uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Busnes a Chyfrifeg
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£460.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
24 Mawrth 2026
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
10 wythnos
Gofynion Mynediad
I gael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn, mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg neu gymhwyster cyfatebol yn llwyddiannus.
Os nad ydych yn siŵr ai dyma'r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle byddwch yn gallu cwblhau prawf wirio sgiliau’r AAT neu sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.
Yn gryno
Mae Diploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg Proffesiynol yn cynyddu cyfleon cyflogaeth yn y maes cyfrifeg. Mae'r uned hon, Systemau Cyfrifeg Mewnol a Rheolaethau, yn cwmpasu rôl a chyfrifoldebau'r swyddogaeth gyfrifeg, anghenion rhanddeiliaid, a gwendidau'r system.
Byddwch yn dysgu methodoleg dadansoddi i werthuso newidiadau, cydymffurfiaeth statudol, a rheolaethau cost-effeithlon. Byddwch hefyd yn archwilio dadansoddeg data, AI, cyfrifeg cwmwl, a diogelwch data.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych wedi cwblhau'r Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus ac eisiau parhau i feithrin eich sgiliau cyfrifyddu.
... Ydych chi am fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn yr AAT a / neu fynd ymlaen i astudio am statws cyfrifydd siartredig.
... Ydych chi am gychwyn eich busnes eich hun drwy gynllun aelodau trwyddedig yr AAT.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg ac yn ennill sgiliau cyfrifyddu a chyllid proffesiynol gydol oes, gan eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfleoedd yn eich gyrfa gyfrifyddu.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor.
- Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.
Trwy gyflwyno cais yma, rydych chi’n prynu uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol, hefyd, bydd angen i chi brynu’r unedau Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol a Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol i gwblhau pob un o’r unedau craidd ar gyfer cymhwyster AAT Lefel 4.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor. · Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 4 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth AAT lawn a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio'r llythrennau dynodi MAAT ar ôl eich enw.
Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw’r potensial i arwain at amrywiaeth eang o swyddi mewn cyfrifeg a chyllid sy'n talu'n dda, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
- Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
- Archwilydd Cynorthwyol
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
- Uwch Geidwad Llyfrau
- Uwch Swyddog Ariannol
- Goruchwyliwr Cyfrifon Taliadwy a Threuliau
- Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
- Cyfrifydd Costau
- Cyfrifydd Asedau Sefydlog
- Rheolwr Treth Anuniongyrchol
- Rheolwr Taliadau a Bilio
- Uwch Gyfrifydd y Gronfa
- Uwch Weinyddwr Ansolfedd
- Cyfrifydd TAW
Bydd cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn eich cynnig llwybr cyflym at statws cyfrifydd siartredig gan y bydd yr AAT yn rhoi eithriadau hael o holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU i chi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn yn gyrsiau "roll-on / roll-off" gyda dyddiadau dechrau hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cymysg (cymysgedd o ddysgu traddodiadol wyneb-yn-wyneb gyda athro yn y dosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol, o gartref).
Mae'r cwrs hwn yn symud ymlaen o'r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau pellach i wneud cynnydd o fewn y maes cyfrifeg.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCDI0077DC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 24 Mawrth 2026
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr