En

VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch gyda Lleoliad Gwaith Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae rhaid i chi meddu ar o leiaf 3 TGAU gradd D ac yn uwch

Yn gryno

Mae'r cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 ar gyfer y rheini sydd am ddechrau yn y diwydiant harddwch neu symud ymlaen o Therapi Harddwch Lefel 1 i'r rhan fwyaf o driniaethau Therapi Harddwch Sylfaenol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes ydych chi'n meddu ar ddiddordeb brwd mewn Therapi Harddwch

... Os ydych chi am ddysgu sgiliau a thechnegau harddwch newydd i wella eich set sgiliau presennol

... Ydych chi'n ystyried gyrfa fel Therapydd Harddwch

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch chi'n dysgu am ymgynghoriadau ac unedau megis:

  • Trin dwylo
  • Trin traed
  • Trin wyneb
  • Wacsio
  • Colur
  • Dyletswyddau derbynfeydd salonau
  • Iechyd a diogelwch
  • Gofal cleientiaid
  • Trin amrannau ac aeliau
  • Lliw haul
  • Codi Aeliau
  • Cyflwyniad i godi aeliau

O fewn pob un o'r unedau hyn byddwch chi'n cymryd asesiadau ymarferol i ddangos eich cymhwysedd ymarferol yn ogystal ag arholiadau ac aseiniadau sy’n cwmpasu pob canlyniad meini prawf i allu sicrhau y cyflawnir popeth.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd disgwyl i chi fynychu pob sesiwn, gweithio'n galed a chwblhau asesiadau ymarferol ar gleientiaid sy'n talu gan fod y salon yn sefydliad hyfforddi realistig.

Bydd rhaid i chi: fod yn hunan-gymhellol ac yn weithgar, ymfalchïo yn eich edrychiad, bod yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.

Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy'n talu, y gellir rhywfaint o'r rhain fod yn deulu neu ffrindiau i allu cwblhau asesiadau ymarferol lle bo angen. Fodd bynnag, os oes yna apwyntiadau allanol a drefnwyd, bydd rhaid iddyn nhw ddod yn gyntaf bob tro.

Bydd disgwyl eich bod chi'n mynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg unffurf
  • Rhaid clymu gwallt yn daclus i ffwrdd o'r wyneb
  • Defnyddio colur bob dydd
  • Ni chaniateir tyllu, a dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon

Fel amod o'ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r cit priodol, o'n cyflenwr cymeradwy, sydd yn costio tua £86 yn amodol ar adolygiad/costau yn cynyddu oherwydd chwyddiant.

I allu adlewyrchu disgwyliadau y diwylliant, bydd disgwyl i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu o'n cyflenwr cymeradwy. Gellir cael gafael ar fanylion ar sut  i archebu eich gwisg, gydag opsiynau i dalu'r cyflenwr, o'ch Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Cost 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar gynyddu oherwydd chwyddiant.

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae pob cost dan adolygiad ac yn amodol ar newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch gyda Lleoliad Gwaith Lefel 2?

EFDI0446AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr