En

VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

... Oes gennych chi o leiaf 3 TGAU ar radd D neu’n uwch

Yn gryno

Mae'r cwrs Lefel 2 mewn Therapi Harddwch ar gyfer y rheini sydd am ddechrau gweithio yn y diwydiant harddwch neu symud ymlaen o Therapi Harddwch Lefel 1 i'r triniaethau Therapi Harddwch mwyaf safonol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn Therapi Harddwch

... Ydych chi am ddysgu sgiliau a thechnegau harddwch newydd i wella eich gallu presennol ymhellach.

... Ydych chi’n ystyried gyrfa fel Therapydd Harddwch

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dysgu am ymgynghori â chleientiaid ac yn astudio unedau cleientiaid megis:

  • Trin dwylo
  • Trin traed
  • Trin wynebau
  • Wacsio
  • Colur
  • Dyletswyddau derbynfa’r salon
  • Iechyd a Diogelwch
  • Gofal cleientiaid
  • Trin blew amrant ac aeliau
  • Lliw haul
  • Codi blew amrant
  • Estyniadau Aeliau - cyflwyniad

Ym mhob un o'r unedau hyn, byddwch yn cael asesiadau ymarferol i ddangos cymhwysedd ymarferol, yn ogystal ag arholiadau ac aseiniadau a fydd yn cwmpasu holl ganlyniadau'r meini prawf i sicrhau y cyflawnwyd pob un ohonynt. 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn, gweithio'n galed a chynnal asesiadau ymarferol ar gleientiaid sy’n talu, gan fod y salon yn sefydliad hyfforddi realistig.

Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, yn weithgar, yn ymfalchïo yn eich ymddangosiad a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.

Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy’n talu a mynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl Lefel 2 mewn Therapi Harddwch, byddwch chi’n gallu symud ymlaen i Lefel 3 er mwyn uwchsgilio eich triniaethau harddwch.

Neu, gan ddibynnu ar eich set sgiliau a'ch opsiynau, gallech symud ymlaen i Lefel 3 mewn Technoleg neu Golur Theatrig.

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, byddwch chi hefyd yn gymwys i gynnig Lamineiddio Aeliau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod Gwisg:

  • Gwisg Unffurf
  • Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Gwisgwch golur bob dydd
  • Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon

Fel amod o'ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r cit priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy sy'n costio tua £86 yn amodol ar adolygiad / prisiau’n codi oherwydd chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg, gydag opsiynau i dalu ein cyflenwr, gan eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar prisiau’n cynyddu oherwydd chwyddiant.

Gellir codi costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau dan adolygiad ac maent yn amodol ar newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 2?

EFDI0446AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr