En

Baglor yn y Celfyddydau – Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
16 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:

Hefyd: Pass mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). 

Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, gellir rhoi ystyriaeth i oed a phrofiad.

 

Yn gryno

Anelir y cymhwyster BA mewn Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon at fyfyrwyr sydd am ganolbwyntio ar gynhyrchu sain ac ysgrifennu caneuon.

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i gynhyrchu mewn stiwdio a chyfansoddi a sain ar gyfer ffilmiau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi'n angerddol dros gerddoriaeth boblogaidd

... Ydych chi’n chwilio am gwrs ymarferol i roi profiad i chi

... Ydych chi am ennill cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn a chymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid sy'n ymweld.

Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i helpu i ddysgwyr symud ymlaen mewn eu dewis o faes cerdd.

Byddwch yn dod yn raddedig a fydd yn gwella'r sin gerddoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu ag amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau.

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Cynhyrchu yn y Stiwdio : Hyfedredd Technegol yn y stiwdio.

Ysgrifennu Caneuon : Datblygu sgiliau a thechnegau ysgrifennu caneuon.

Cyfansoddi a Sain ar gyfer Ffilmiau : Datblygu sgiliau Cyfansoddi / Sain Foleyar gyfer Ffilmiau.

Y Cydweithredwr Cerddoriaeth : Datblygu sgiliau cydweithio a rhwydweithio.

Byddwch yn defnyddio ein stiwdios recordio o’r radd flaenaf sy’n cynnwys desg Audient HE8024, ystod lawn o ficroffonau Neumann gan gynnwys recordio deuglust pen dymi.

Mae ein hystafell ôl-gynhyrchu yn cynnwys ystafell sain Foley gyda galluoedd ‘sain i lun’ llawn, cyfleusterau DAW o ansawdd uchel a dewis helaeth o offerynnau cerddoriaeth electronig analog.

Mae ein stiwdios hefyd yn cynnwys consol cymysgu sgrin gyffwrdd Steven Slate Raven MTI2.

Mae ein dewis o bennau a chabiau seinchwyddwr yn cynnwys Soldano slo 100w, Vox AC30 a Marshall JCM 900.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen TGAU mewn tri phwnc Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth), ynghyd ag o leiaf un o'r canlynol:

  • Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
  • Graddau DD Lefel A
  • Graddau DE Safon Uwch ynghyd â C ym Magloriaeth Cymru
  • Mynediad i AU lle rydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 Pas

Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Llwybr Dilyniant:

Msc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru

MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu ym Mhrifysgol De Cymru

Peirianneg Stiwdio

BBC (rolau amrywiol)

ÔL-Gynhyrchu

Cyfansoddwr Caneuon Llawrydd

Peiriannydd Sain Llawrydd

Cyfansoddi ar gyfer Ffilmiau

Cerddoriaeth Llyfrgell

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Baglor yn y Celfyddydau – Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon?

CFDA0003AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 16 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr