Serameg Canolradd
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£55.00
Dyddiad Cychwyn
29 Ebrill 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
5 wythnos
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs a addysgir sy’n hwyl ac yn greadigol gan gynnig cyfle i archwilio, datblygu, dylunio, addurno a chreu amrywiaeth o ddarnau seramig.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Rhywun â diddordeb brwd ym maes seramig
... Rhywun ar lefel ganolradd
... Rhywun â phrofiad sy’n dymuno ehangu ei sgiliau.
Cynnwys y cwrs
Bob wythnos, cewch gyfle i ehangu eich profiad o waith seramig trwy roi cynnig ar ystod o dechnegau megis adeiladu â llaw, Technegau Addurniadol, mowldio gwasg a thechnegau gwydro. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau trwy arddangosiadau a chyfarwyddiadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch chi eu datblygu ac adeiladu arnynt. Hefyd, bydd gennych chi gasgliad o ddarnau ar gyfer eich portffolio a gallwch chi fynd â nhw adref gyda chi.
Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi deimlo’n fwy hyderus a dylech chi allu defnyddio’r technegau a ddysgwyd yn ystod y cwrs i symud eich diddordeb ym maes seramig yn ei flaen.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn cynnig ystod o gyrsiau drwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol ar hyn o bryd:
· Tecstiliau
· Seramig
· Creu printiadau
· Ffotograffiaeth
· Argraffu 3D
· Llesiant Creadigol ac Ymarfer y Celfyddydau
· Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
· Y Celfyddydau Perfformio
· Canu Er Mwynhâd
· Ysgrifennu Creadigol
· Uwchgylchu Celfi a Chrefft
· Creu Gemwaith
· Darlunio Digidol gan ddefnyddio Procreate
· Lansio Menter/Busnes Creadigol
Darperir yr holl gyfarpar yn ystod y cwrs hwn.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3159AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 29 Ebrill 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr